Latest headlines in Welsh
- Llafur yn sicrhau 29 sedd
Canlyniadau
| Plaid | Ymgeiswyr | Pleidleisiau | % | Newid o ran seddau (%) |
|---|---|---|---|---|
| Plaid LLAF Llafur Cymru | YmgeiswyrJulie James | Pleidleisiau9,014 | 40.6% | Newid o ran seddau (%)−4.7 |
| Plaid CEID Ceidwadwyr Cymru | YmgeiswyrCraig Lawton | Pleidleisiau3,934 | 17.7% | Newid o ran seddau (%)−6.3 |
| Plaid PC Plaid Cymru | YmgeiswyrDai Lloyd | Pleidleisiau3,225 | 14.5% | Newid o ran seddau (%)+0.6 |
| Plaid UKIP Plaid Annibyniaeth y DU | YmgeiswyrRosie Irwin | Pleidleisiau3,058 | 13.8% | Newid o ran seddau (%)+13.8 |
| Plaid DRh Dem Rhydd Cymru | YmgeiswyrChristopher Holley | Pleidleisiau2,012 | 9.1% | Newid o ran seddau (%)−7.7 |
| Plaid GRDd Plaid Werdd Cymru | YmgeiswyrGareth Tucker | Pleidleisiau883 | 4.0% | Newid o ran seddau (%)+4.0 |
| Plaid SPGB Plaid Sosialaidd Prydain Fawr | YmgeiswyrBrian Johnson | Pleidleisiau76 | 0.3% | Newid o ran seddau (%)+0.3 |
Newid o'i gymharu â 2011 | ||||
% a bleidleisiodd and Mwyafrif
Llafur Cymru Mwyafrif
5,080% a bleidleisiodd
40.7%Portread o'r etholaeth
Mae Abertawe, ail ddinas fwyaf Cymru, yn gymysgedd o ddiwydiannau a busnesau, ond mae arfordir godidog Gŵyr ar y stepen drws. Mae’r ddinas yn cael ei hystyried fel porth i orllewin Cymru, ac yn safle strategol bwysig yn hanesyddol, gwleidyddol ac o ran datblygu economaidd.
Mae diweithdra yn etholaeth Gorllewin Abertawe tua dwbl y cyfartaledd ar draws y DU ar 12.5%, ac mae nifer fawr o fyfyrwyr yn astudio yn nwy brifysgol y ddinas. Mae yna ardaloedd llewyrchus, gan gynnwys Derwen Fawr a’r Sgeti, yn ogystal â chartref plentyndod y bardd Dylan Thomas yn Cwmdonkin Drive.
Llafur sydd wedi ennill y sedd ym mhob etholiad Cynulliad hyd yma, gyda mwyafrif o 4,654 a 43.3% o’r bleidlais yn 2011. Y Ceidwadwyr oedd yn ail gyda 24%, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 16.8% a Phlaid Cymru ar 13.9%.