Latest headlines in Welsh
- Llafur yn sicrhau 29 sedd
Canlyniadau
| Plaid | Ymgeiswyr | Pleidleisiau | % | Newid o ran seddau (%) |
|---|---|---|---|---|
| Plaid LLAF Llafur Cymru | YmgeiswyrJane Hutt | Pleidleisiau14,655 | 38.8% | Newid o ran seddau (%)−8.6 |
| Plaid CEID Ceidwadwyr Cymru | YmgeiswyrRoss England | Pleidleisiau13,878 | 36.7% | Newid o ran seddau (%)+0.7 |
| Plaid PC Plaid Cymru | YmgeiswyrIan Johnson | Pleidleisiau3,871 | 10.2% | Newid o ran seddau (%)−1.9 |
| Plaid UKIP Plaid Annibyniaeth y DU | YmgeiswyrLawrence Andrews | Pleidleisiau3,662 | 9.7% | Newid o ran seddau (%)+9.7 |
| Plaid DRh Dem Rhydd Cymru | YmgeiswyrDenis Campbell | Pleidleisiau938 | 2.5% | Newid o ran seddau (%)−2.1 |
| Plaid GRDd Plaid Werdd Cymru | YmgeiswyrAlison Haden | Pleidleisiau794 | 2.1% | Newid o ran seddau (%)+2.1 |
Newid o'i gymharu â 2011 | ||||
% a bleidleisiodd and Mwyafrif
Llafur Cymru Mwyafrif
777% a bleidleisiodd
53.1%Portread o'r etholaeth
Mae hon yn etholaeth yn ne Cymru rhwng Caerdydd a Phen-y-bont sydd hefyd yn cynnwys arfordir Morgannwg. Mae hi’n etholaeth amrywiol, gyda thref hanesyddol Y Barri, oedd yn arfer bod yn gartref i’r porthladd glo mwyaf yn y byd, ac ardaloedd mwy cefnog a gwledig fel Y Bontfaen. Tref Y Barri ei hun sydd gyda’r boblogaeth fwyaf, a’r pumed tref fwyaf yng Nghymru.
Er bod nifer yn teithio i’w gwaith yng Nghaerdydd, mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn yr etholaeth, sy’n gyflogwr pwysig. Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae diweithdra yn 6.1% o`r boblogaeth o’i gymharu gyda 5.5% ar draws y DU.
Llafur a Jane Hutt sydd wedi cynrychioli’r ardal ers 1999, ond gyda mwyafrif bach yn 1999 a 2007. Yn 2011 fe enillodd 47.4% o’r bleidlais, o’i gymharu gyda 36% i’r Ceidwadwyr, 12.1% i Blaid Cymru a 4.5% i’r Democratiaid Rhyddfrydol. Roedd ganddi fwyafrif o 3,775.