Sut mae sicrhau bod mwy o gymunedau'n elwa o goedwigoedd lleol?

Mae'r goedwig ger Treherbert yn gartref i gymysgedd o goetir, rhostir a phlanhigfeydd conwydd
- Cyhoeddwyd
Mae tanau gwyllt difrifol wedi hawlio sylw mewn sawl rhan o Gymru dros wythnosau diweddar.
Mae cymunedau wedi gweld ardaloedd o harddwch ac adnoddau naturiol lleol yn llosgi, a chyfnodau hir o adfer o'u blaenau.
Un o'r rhain yw coedwig Cwm Saerbren ger Treherbert, ble mae rhannau wedi troi'n ddu yn dilyn tanau a gymrodd ddyddiau i'w diffodd.
Ond er gwaethaf y difrod, mae pobl leol yn benderfynol o barhau i geisio sicrhau bod y goedwig yn dod â budd i'r gymuned, ac i natur yr ardal, am genedlaethau i ddod.

Mae Geraint Davies eisiau gweld mwy o reolaeth leol dros y goedwig
Mae Coedwig Cwm Saerbren yn rhan o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, gan ymestyn dros tua 195 hectar mae'r planhigfeydd conwydd, rhostir, cors a darnau o goetir brodorol yn hafan i natur.
Mae rhan ohoni wedi'i dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Ond mae tua 40 hectar yn cael ei reoli dan gytundeb rheoli cymunedol.
Mae cartref Geraint Davies yn edrych dros y goedwig, a dywed y gallai'r cwm a Chymru gyfan ddysgu gwersi o'r hyn sy'n digwydd yng Nghwm Saerbren ac elwa mwy o goedwigoedd lleol.
"Hoffen ni weld mwy o gyfrifoldeb yn dod i'r gymuned leol i ddweud yn union be' ni moyn 'neud.
"Bydde fe'n dda i'r economi leol i neud arian mas o'r tyfiant sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd a bod e'n hunangynhaliol yn hytrach na gorfod dibynnu ar grantiau."

Mae tua 40 hectar o'r goedwig yn cael ei reoli gan y gymuned
Yn ôl ystadegau a gyhoeddwyd ym mis Mehefin y llynedd, mae'r diwydiant coed a choedwigoedd yn cyfrannu bron i £3bn i economi'r DU.
Mae ymgyrchwyr yn dweud bod coedwigoedd Cymru yn adnodd pwysig, a byddai cynyddu'r cyflenwad o goed yn golygu llai o angen i fewnforio ac yn helpu i greu economi gylchol.
Maen nhw hefyd yn dadlau y gellid defnyddio coed lleol i adeiladu tai, tra byddai gwell mynediad i goedwigoedd lleol yn gallu helpu iechyd meddwl a chorfforol pobl yr ardal.

Mae Rhianydd Dutfield yn mynd â disgyblion i'r goedwig ar gyfer gwersi
Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Ynys Wen yng nghysgod y goedwig, ac mae'r athrawes Rhianydd Dutfield yn aml yn mynd â'r plant am dro yno fel rhan o'u gwersi.
"Rwy'n credu bod y plant yn gweld a theimlo a chlywed y gwahanol elfennau o'u cwmpas drwy'r amser - dy' nhw ddim yn gweld fel gwers, ma' nhw'n gweld e fel rhywbeth naturiol a bod nhw ishe cymryd rhan.
"Tyfais i lan gyda hwn, ma' hwn yn rhan annatod o'n cymuned ni."

Tebyg ydy teimladau Lee Williams, sy'n trefnu teithiau cerdded drwy'r coed ac yn dweud bod y goedwig wedi bod yn lle i ymlacio.
"O'n i arfer gweithio yn siop fferyllydd y pentre am 35 mlynedd, roedd e'n waith prysur ac roedd y goedwig yn rhywle hyfryd i ddianc a chael tawelwch ar ôl gwaith.
"Mae sefyll yn llonydd a gwrando ar yr adar a'r gwynt yn y coed yn hyfryd, mae olion y gweithfeydd glo a bryniau diwydiannol wedi mynd."

Mae Lee Williams yn dweud bod y goedwig wedi bod yn fan i ddianc ac ymlacio ers blynyddoedd
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fod y prosiect yng Nghwm Saerbren yn "enghraifft wych o'r cysylltiad cryf rhwng cymuned benodol ac Ystad Goetir gyfagos Llywodraeth Cymru".
Ychwanegodd fod y prosiect hefyd yn enghraifft o sut mae pobl leol yn helpu i lywio'r ffordd y bydd y goedwig yn cael ei rheoli yn y dyfodol.

Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud yn Nhreherbert yn cael ei ddisgrifio fel enghraifft o roi'r "pŵer i gymunedau i reoli coedwigoedd lleol er budd pobl leol a natur yn y tymor hir".
Mae'n enghraifft "uchel ei broffil", ac mae CNC yn dweud bod sawl cytundeb tebyg ar waith lle mae grwpiau cymunedol yn cymryd rhan yn y gwaith o reoli a gwella eu coedwigoedd lleol.
Ychwanegodd: "Mae'r coedwigoedd yn parhau i fod yn eiddo cyhoeddus ac yn cael eu rheoli o fewn fframweithiau cyfreithiol, amgylcheddol a diogelwch CNC."
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym am weld cymunedau yng Nghymru yn fwy cysylltiedig â'u tirwedd.
"Mae prosiectau fel hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd ein Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur, ac yn dangos sut y gall coetiroedd bach sy'n cael eu harwain yn lleol greu swyddi, cyfleoedd economaidd a manteision iechyd i'r gymuned."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.