'Dyw colli fy ngwallt drwy cemo ddim yn diffinio fi - mae'n dangos bo' fi'n gryf'

Rhiannon ThomasFfynhonnell y llun, Caroline Sikkenk
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhiannon yn un o 11 o fenywod o Gymru sydd wedi cael tynnu ei llun ar gyfer ymgyrch BOLD The Pink Ribbon Foundation

  • Cyhoeddwyd

Pan gollodd Rhiannon Thomas ei gwallt yn ystod cemotherapi wythnosau'n unig ar ôl cael mastectomi fe gollodd hi ei hyder hefyd, meddai.

Ond ar ôl cael lluniau wedi eu tynnu ohoni ar gyfer ymgyrch yn dathlu gwytnwch menywod sy'n byw gyda chanser y fron dywedodd ei bod wedi dod o hyd i gryfder mewnol.

"Am y tro cyntaf dwi'n teimlo fel bo fi'n edrych yn bert, dwi'n edrych yn hyderus ac yn gryf," meddai'r fam 36 oed.

"Mae'n synnu chi y cryfder chi'n dod o hyd iddo pan chi'n mynd drwy amser mor anodd."

Rhiannon yn gwisgo pajamas ac yn eistedd mewn cadair ysbytyFfynhonnell y llun, Rhiannon Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhiannon Thomas wedi cwblhau ei thriniaeth cemotherapi'n ddiweddar

Mae gan Rhiannon ddwy ferch, 14 a naw oed, ac mae'n gweithio fel cynorthwyydd addysgu.

Fe gafodd ddiagnosis o ganser fis Tachwedd y llynedd ar ôl dod o hyd i lwmp tra roedd hi'n cael cawod.

"Ges i breakdown," meddai.

"Fel, sut ydych chi'n dweud wrth eich plant? O'n i mor ofnus jest i ddweud wrthyn nhw."

Ers hynny mae Rhiannon wedi cael mastectomi a cemotherapi ac mae ar hyn o bryd yn cael radiotherapi.

Pan ddechreuodd ei gwallt gwympo allan yn ystod cemotherapi fe benderfynodd siafio ei phen - ond roedd hi eisiau ei gwneud e'n brofiad mor gadarnhaol â phosib ar gyfer ei phlant.

Felly awgrymodd y dylai ei merch ieuengaf esgus bod yn driniwr gwallt gan wneud beth bynnag yr hoffai i'w gwallt gyda siswrn - cyn iddyn nhw siafio'r gwallt yn llwyr.

"O'n i fel 'torra be' bynnag ti moyn achos mae'n mynd be bynnag'," meddai Rhiannon.

"Roeddwn i eisiau gwneud profiad anodd yn hwyl ar gyfer fy mhlant ac i fi fy hun oherwydd doeddwn i ddim eisiau iddyn nhw weld fi'n drist - ac roedd fy merch wrth ei bodd."

Rhiannon a'i theuluFfynhonnell y llun, Rhiannon Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl cael diagnosis o ganser roedd Rhiannon yn poeni'n syth am ei phlant

Mae yna fideo ar ei ffôn yn dangos y teulu cyfan yn chwerthin gartref yn Abertridwr, ger Caerffili, wrth i'w merch fod yn greadigol gyda'r siswrn.

Ond ar ôl hynny, pan roedd ar ei phen ei hun, roedd Rhiannon yn ei chael hi'n anodd derbyn y newid radical.

"Dwi'n cofio edrych yn y drych a chrio achos chi ddim yn adnabod eich hun," meddai.

Roedd disgrifio'r tro cyntaf i'w rhieni ei gweld ar ôl iddi siafio ei phen yn anodd, meddai ac roedd yn emosiynol yn adrodd yr hanes.

Pryd bynnag roedd hi'n gadael y tŷ roedd hi'n gwisgo gorchudd o gwmpas ei phen.

Sam Gronow-WaltersFfynhonnell y llun, Caroline Sikkenk
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sam Gronow-Walters yn dweud ei bod yn teimlo'n falch o'r lluniau

Mae hanes Rhiannon yn swnio'n gyfarwydd iawn i'r nyrs iechyd meddwl, Sam Gronow-Walters sydd â dau o blant.

Mae Sam hefyd wedi colli ei gwallt drwy gael triniaeth ar gyfer canser y fron. Does dim modd gwella canser Sam, sy'n 44 oed.

Cafodd ddiagnosis o ganser y fron bum mlynedd yn ôl, ac ar ôl llawdriniaeth i dynnu'r fron a chemotherapi, dywedon nhw wrthi bod y canser wedi mynd.

Ond yn 2024, cafodd wybod fod y canser wedi lledaenu i'w hysgyfaint. Ym mis Gorffennaf, dangosodd profion ei fod wedi lledaenu i'r afu a'i nodau lymff.

"Mae'n rhaid i chi gario ymlaen," meddai Sam o Sain Tathan ym Mro Morgannwg.

"Mae'n rhaid i chi wneud beth bynnag y gallwch chi achos dwi eisiau gweld fy mhlant yn tyfu i fyny," ychwanegodd.

Sam a'i mabFfynhonnell y llun, Sam Gronow-Walters
Disgrifiad o’r llun,

Cytunodd Sam i dorri ei gwallt yr un steil â'r pêl-droediwr enwog o Brazil, Ronaldo

Yn debyg i Rhiannon, pan roedd hi'n teimlo nad oedd dewis arall ganddi ond siafio ei phen, ceisiodd feddwl yn syth sut y gallai wneud y profiad yn un gwell i'w phlant.

Mae ganddi ferch 20 oed a mab sy'n 13. Gofynnodd ei mab iddi adael ychydig o wallt tua'r blaen gan ei fod yn hoff o steil y pêl-droediwr enwog o Brazil, Ronaldo, yn ystod Cwpan y Byd 2002. Cytunodd i wneud hynny.

"I fi mae hynny'n atgof reit hapus, a mae e'n gallu gweld hyd yn oed pan dwi reit sâl dwi dal yn gallu cael hwyl, yn gallu gwenu a gallai dal wneud fy mhlant i chwerthin," meddai.

Ond eto roedd hi'n dal i boeni am yr effaith y byddai ei hymdrech newydd yn ei gael ar ei phlant.

""O'n i arfer gofyn i'r mab pan o'n i'n mynd ag ef i'r ysgol, 'ti'n meindio os dydw i ddim yn gwisgo het?'

"A'i ateb oedd...'pam byddai ots gen i?'"

Sam Gronow-WaltersFfynhonnell y llun, Caroline Sikkenk
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Sam ddiagnosis bum mlynedd yn ôl

Fe wnaeth Rhiannon a Sam gwrdd am y tro cyntaf ar ôl cofrestru i gymryd rhan yn ymgyrch BOLD Wales, sy'n cael ei chynnal gan yr elusen canser y fron, y Pink Ribbon Foundation.

Mae'r prosiect yn dathlu dewrder a hyder menywod sydd wedi colli eu gwallt oherwydd canser y fron.

Fe dreulion nhw ddiwrnod yng Nghaerdydd gyda naw menyw arall o Gymru wrth i'r ffotograffydd o'r Iseldiroedd, Caroline Sikkenk, dynnu lluniau ohonyn nhw.

Bydd y lluniau'n cael eu harddangos yn Piccadilly Lights yn Llundain fis nesaf.

Roedd y ddwy'n teimlo'n nerfus am gael eu lluniau wedi tynnu, ond dywedon nhw fod y profiad yn un hapus iawn.

"Roedd hi fel petai ni wedi adnabod ein gilydd cyn y diwrnod yna - a ni dal i gadw mewn cysylltiad nawr," meddai Sam.

Doedd Rhiannon erioed wedi siarad â menyw arall oedd wedi colli ei gwallt yn ystod triniaeth canser.

"O'n i'n teimlo'n ddiogel iawn a fel bod neb yn beirniadu fi," ​​meddai.

Rhiannon a Sam
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhiannon a Sam wedi cadw mewn cysylltiad ers y sesiwn tynnu lluniau

Roedd gweld y lluniau am y tro cyntaf yn brofiad emosiynol i'r ddwy a dywedodd Rhiannon ei bod yn falch o'r dewrder gymerodd e i wneud hyn ar adeg mor fregus.

A doedd Sam bron ddim yn adnabod ei hun.

"O'n i fel, 'wow, dim fi yw hwnna'," meddai.

"O'n i'n eithaf balch o ddangos nhw i fy nheulu a dweud, 'fi yw hon'."

Rhiannon a LisaFfynhonnell y llun, The Pink Ribbon Foundation
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lisa Allen (dde) o The Pink Ribbon Foundation a Rhiannon yn dweud bod cymuned bellach wedi tyfu o'r ymgyrch

Dechreuodd BOLD yn 2022 ar ôl i Lisa Allen o The Pink Ribbon Foundation gwrdd â'r ffotograffydd Caroline Sikkenk mewn cynhadledd am ganser y fron.

Roedd Caroline wedi treulio blynyddoedd yn tynnu lluniau o fenywod a oedd wedi colli eu gwallt oherwydd salwch.

"Yr hyn oedd yn drawiadol am ei ffotograffau oedd bod y menywod yma ddim yn cael eu dangos fel cleifion," meddai Lisa.

"O'n nhw'n gryf, yn hardd ac yn nhw eu hunain."

Cafodd y sesiwn ffotograffiaeth gyntaf ei chynnal ar gyfer BOLD yn 2023.

"Yr hyn doeddwn i ddim wedi ei ragweld oedd ei bod am greu cymuned," meddai Lisa.

"Ni'n creu grŵp WhatsApp ymlaen llaw, felly erbyn i'r menywod gyrraedd, maen nhw'n barod yn teimlo fel eu bod yn mynd drwy'r profiad gyda'i gilydd.

"Mae'r cyfeillgarwch a'r gefnogaeth sy'n datblygu oherwydd hynny yn parhau ymhell ar ôl i'r ffotograffau gael eu tynnu."

Dywedodd y ddwy fenyw fod cymryd rhan yn y prosiect wedi rhoi cryfder ac ymdeimlad o optimistiaeth newydd iddynt.

"Dwi'n teimlo bod fy hyder a'm hagwedd bositif wedi cryfhau yn sgil y sesiwn ffotograffau," meddai Rhiannon.

"Cerddais oddi yno yn llawn hyder. O'n i'n teimlo'n rhydd ac yn teimlo fel nad oes rhaid i mi guddio."

Mae'r gorchuddion pen wedi mynd, ac mae dangos ei phen unwaith eto wedi dod yn "normal newydd".

I Sam, fe wnaeth y sesiwn ffotograffau ei helpu i dderbyn ei hun.

"Dyma fi nawr – fyddwn i ddim yn cael gwallt hir eto," meddai.

"Dydy colli gwallt ddim yn diffinio pwy ydw i. Dim ond symbol ydy e fy mod i'n dod trwy hyn ac fy mod i'n gryf."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.