Cais dadleuol am dai newydd yn Chwilog i gael ei drafod eto

Delwedd o sut allai'r datblygiad edrych ar ôl cael ei ddiwygio i gynnwys llai o dai
- Cyhoeddwyd
Bydd cynghorwyr yng Ngwynedd yn trafod cais cynllunio ar gyfer 20 o dai fforddiadwy ym mhentref Chwilog eto ddydd Llun – dros bedwar mis ar ôl iddyn nhw wrthod y cais gwreiddiol.
Ddiwedd Ebrill fe wnaeth aelodau o bwyllgor cynllunio'r cyngor bleidleisio o 8 – 4 yn erbyn y cynllun oherwydd pryder ynglyn â'r effaith ar y Gymraeg ac amheuaeth dros yr angen am gymaint o dai yn y gymuned.
Bellach mae'r cynllun wedi cael ei addasu a nifer y tai wedi gostwng o'r 25 a oedd yn y cais gwreiddiol, i lawr i 20.
Oherwydd y gostyngiad yn nifer y tai fe fydd y datblygiad nawr yn gorwedd yn gyfangwbl o fewn safle sydd wedi'i ddynodi yn benodol ar gyfer adeiladu tai o fewn ffin ddatblygu Chwilog.
Gwrthod cefnogi cynllun 25 tŷ Chwilog dros bryderon iaith
- Cyhoeddwyd27 Ebrill
Gwynedd: Datblygiad tai fforddiadwy i 'newid cymeriad pentref'?
- Cyhoeddwyd26 Ebrill
Mae pentref Chwilog yn cael ei ystyried yn ardal o "bwysigrwydd ieithyddol" lle mae tua 80% yn gallu siarad Cymraeg - ymhlith y cymunedau sydd â'r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd.
Mae swyddogion y cyngor wedi argymell y dylid caniatáu'r cais gan Williams Homes Ltd (Bala) a Grŵp Cynefin.
Ond mae gwrthwynebiad yn lleol – cyn y drafodaeth ym mis Ebrill cafodd deiseb o 160 o lofnodion ei chyflwyno yn erbyn y cais.
Er bod y cynllun wedi'i addasu a nifer y tai yn is, mae Cyngor Cymuned Llanystumdwy wedi gwrthod y cais yn unfrydol.
Rhoddodd y cyngor cymuned sawl rheswm am eu gwrthwynebiad gan gynnwys yr effaith ar yr iaith Gymraeg, pryder y gallai gorddatblygu effeithio ar gymeriad Chwilog ac y byddai "gormod o gynnydd mewn tai yn… straen ar y pentref".
Y tai yn rhai fforddiadwy - datblygwr
Ond wrth siarad ar ran y datblygwyr gerbron y pwyllgor cynllunio ym mis Ebrill dywedodd Sioned Edwards o gwmni Cadnant fod "angen cynyddol am dai fforddiadwy", a'u bod wedi "gweithio'n agos gyda'r cyngor i sicrhau bod y math o dai yn cwrdd â'r angen lleol".
Pe bai'r cynllun yn cael ei gymeradwyo fe fyddai'r tai yn cael eu hadeiladu ar dir ger Cae Capel, sef tir pori amaethyddol sydd wedi ei leoli o fewn ffin ddatblygu y pentref ar safle sydd wedi'i ddynodi yn benodol ar gyfer codi tai.
Byddai'r datblygiad yn cynnwys amrywiaeth o dai a fflatiau: 4 fflat un ystafell wely, 9 tŷ dwy ystafell wely, 6 tŷ tair ystafell wely ac 1 byngalo 2 ystafell wely.
Yn ôl y datblygwyr fe fyddai'r cyfan yn 100% tai fforddiadwy ac yn gymysgedd o ran deiliadaeth gan gynnwys tai rhent cymdeithasol a thai rhent fforddiadwy canolradd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.