'Misoedd gora' fy mywyd' ar daith feics o Gymru i Wlad Thai

Dyfan, James a LouisFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dyfan, James a Louis hanner ffordd trwy eu taith ac wedi cyrraedd Georgia erbyn hyn

  • Cyhoeddwyd

Mae tri seiclwr 18 oed o Langollen sydd hanner ffordd trwy daith elusennol o Gymru i Wlad Thai yn dweud bod y daith hyd yma wedi bod yn fisoedd "gora'" eu bywydau.

Cyn gadael Sir Dinbych ym mis Awst, doedd y tri - Dyfan Hughes, James Thomas a Louis Dennis - heb seiclo fawr pellach na'r siop leol o le brynon nhw'u beics.

Erbyn hyn maen nhw wedi cyrraedd dinas Batumi, yn Georgia, ac yn anelu at gyrraedd Chiang Mai, yng Gwlad Thai erbyn Medi 2026.

Fe fyddan nhw'n cwrdd â ffrind a symudodd i'r ddinas yn gynharach eleni wedi i'w dad farw o drawiad ar y galon.

Hyd yn hyn maen nhw wedi codi dros £20,500 dros Sefydliad y Galon, er cof am dad eu ffrind, gyda'u taith trwy 19 o wledydd.

Dywedodd Louis Dennis: "Mae pobol yn meddwl bod o'n ddipyn yn anoddach nag y mae, ond mae'r tri thwpsyn yma'n ei 'neud o'n berffaith iawn!"

Gan siarad ddydd Gŵyl San Steffan, ar ddiwrnod 144 y daith, dywedodd y tri bod "y gorau eto i ddod" ar ôl "ein dathliad bach Nadolig ein hunain".

"Naethon ni wario £20 yr un ar ein gilydd," dywedodd Louis, gan ychwanegu eu bod wedi bod i barti noswyl Nadolig "gwych ble wnaethon nhw "roi anrhegion i bobl leol hefyd".

Mae'r seiclwyr eisoes wedi dweud wrth BBC Cymru iddyn nhw fynd ar gwrs pedair wythnos gyda'u siop leol Drosi Bikes er mwyn dysgu sut i ddatrys unrhyw broblemau allai godi gyda'u beics.

Dywedodd Dyfan Hughes bod "amrywiaeth o bethau wedi digwydd ymhob un o'r gwledydd".

"Yn Rwmania cawson ein cwrso gan gŵn gwyllt ar un pwynt, ac yn Nhwrci bu bron i ni gael damweiniau gyda cheir oedd yn gyrru'n agos atom.

Ychwanegodd Louis: "Naethon ni wersylla ger y môr yn Nhwrci a theimlo daeargryn bach, gyda'r tir yn ysgwyd."

Dyfan, James a LouisFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd y seiclwyr yn osgoi teithio trwy Rwsia gan fod cyfyngiadau ar groesi ffiniau ar hyn o bryd

Mae 109,000 o bobl yn dilyn eu taith ar wefan Instagram, a 140,000 ar TikTok.

Mae'r fideos maen nhw wedi eu cyhoeddi hyd yn hyn yn cynnwys eu hunain yn chwarae mewn gêm bêl-droed 11-bob-ochr gyda thrigolion lleol, yn cymryd rhan mewn dosbarthiadau arlwyo ac yn dathlu pen-blwydd Dyfan yn ddeunaw oed.

Cam nesaf y daith fydd hedfan o Azerbaijan i Kazakhstan, gan osgoi Rwsia.

Dywedodd Louis, bod "y misoedd diwetha wedi fod yn rhai gora' fy mywyd", yn enwedig yn sgil ymgymryd â her "dros achos da".

Pynciau cysylltiedig