Claire Hughes AS: Canser 'yn newid, ond dwi'n lwcus hefyd'

Roedd Claire Hughes yn siarad ar raglen Post Prynhawn ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol Bangor Aberconwy, Claire Hughes, wedi dweud ei bod yn teimlo'n "lwcus" er bod diagnosis canser wedi troi ei bywyd ben i waered.
Fe wnaeth yr AS Llafur ddatgelu ym mis Hydref ei bod yn derbyn triniaeth ar gyfer canser y fron.
Cafodd Claire Hughes, 46, ei hethol ym mis Gorffennaf y llynedd, ac ym mis Medi eleni cafodd ei phenodi yn weinidog yn Swyddfa Cymru.
Yn siarad ar raglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru ddydd Llun, bu'n egluro sut y cafodd y diagnosis.
"Ro'n i'n gweithio lawr yn San Steffan dros yr haf, ac un dydd ro'n i jest wedi teimlo dipyn bach o boen yn fy nghesail," meddai.
"Wrth proddio fan'na nes i ffeindio lwmp bach yn y fron."
'Dipyn bach yn blasé'
Aeth at ei meddyg yn Llanfairfechan, wnaeth ei chyfeirio at Ysbyty Gwynedd er mwyn cael "brest check".
"Es i yno i gael sgwrs efo'r tîm gofal y fron, ges i mamogram ac wedyn ultrasound a biopsy - pob dim yr un dydd.
"Wythnos wedyn ges i'r canlyniadau, a diagnosis o ganser y fron."
Dywedodd nad oedd yn disgwyl y diagnosis o gwbl, a'i bod yn cydnabod y bu hi "dipyn bach yn blasé" am y peth.
"Mae gen i ffrind yr un oed â fi, ac oedd hi wedi cael yr un peth, ond cyst oedd o," meddai, ac felly doedd hi ddim yn disgwyl diagnosis o ganser 'chwaith.

Cafodd Claire Hughes ei hethol yn Aelod Seneddol Bangor Aberconwy y llynedd
Eglurodd Ms Hughes ei bod wedi cael lumpectomy wedi'r diagnosis, ond bod canlyniadau rhagor o brofion wedi dod i'r casgliad fod mwy o ganser yn ei chorff.
"So dwi wedi cael lumpectomy, masectomy a dwi wedi dechrau cemotherapi rŵan," meddai.
"Dwi wedi cael un rownd o cemotherapi, ac mae gen i bump rownd arall i wneud, a wedyn bydd rhaid i mi gael radiotherapi hefyd."
'Rŵan, dwi'n berson efo canser'
Dywedodd fod y newyddion wedi bod yn sioc, a'i bod yn teimlo fod y cyfan wedi "newid fy identity" yn sydyn iawn.
"Ro'n i mewn routine, mynd lawr i Llundain pob wythnos, ac yn sydyn, roedd newid mawr i fy mywyd.
"Rŵan, dwi'n berson efo canser. Ro'n i'n Aelod Seneddol, ond rŵan dwi'n Aelod Seneddol efo canser. Mae'n newid.
"Mae gen i ddau o blant - 16 ac 13 oed - ond a dweud y gwir dwi wedi bod yma am fwy o'r amser efo nhw.
"Ond mae fy mywyd wedi troi upside down yn sydyn."
Ychwanegodd Ms Hughes fod egluro'r sefyllfa i'w phlant wedi bod yn anodd, ond ei bod yn gobeithio fod bod yn agored am y peth yn dangos fod cael canser "ddim mor ofnus".
"I fi yn bersonol, mae'n well siarad yn agored."
Gofal 'hollol wych'
Eglurodd Ms Hughes nad yw hi wedi gallu mynd i San Steffan yn ddiweddar am ei bod yn gwella o'r triniaethau, ac ddim eisiau peryglu ei hiechyd ymhellach.
"So dwi wedi cario 'mlaen i weithio ond o fa'ma [y gogledd], a dwi'n lwcus achos dwi'n gallu gwneud y rhan fwyaf o fy swydd o gartref."
Dywedodd fod y diagnosis hefyd wedi ei gorfodi i arafu, a blaenoriaethu ei hiechyd trwy fynd allan i gerdded pob dydd a bwyta'n iach.
"Ond dwi mor, mor falch, a dwi'n gwybod pa mor lwcus ydw i, i gael y cymorth i gael cario 'mlaen efo fy ngwaith," meddai.
"Ac y driniaeth dwi wedi'i gael gan dîm gofal y fron yn Ysbyty Gwynedd - maen nhw wedi bod yn hollol wych.
"Felly mae'n newid wrth gwrs, ond dwi'n lwcus hefyd."
Mae modd gwrando ar gyfweliad llawn Claire Hughes ar Post Prynhawn ar BBC Sounds.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2025
