Cofio rhai o'r Cymry nodedig a fu farw yn 2025

Geraint JarmanFfynhonnell y llun, Geraint Jarman
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Jarman

  • Cyhoeddwyd

O wleidyddion i gantorion a beirdd, mae nifer o Gymry nodedig wedi'n gadael ni eleni.

Dyma rai o'r wynebau adnabyddus y bu Cymru Fyw yn talu teyrnged iddynt yn 2025.

Geraint H Jenkins

Geraint H JenkinsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Geraint H Jenkins

Bu farw'r hanesydd a'r ysgolhaig Geraint H Jenkins yn 78 oed ym mis Ionawr.

Cyhoeddodd ddegau o lyfrau ac erthyglau ar bynciau amrywiol - gan arbenigo ar hanes Cymru yn y cyfnod modern cynnar.

Ysgrifennodd gofiant cynhwysfawr a thraethodd yn helaeth ar gyfraniad Iolo Morganwg i fywyd Cymru.

Ef hefyd wnaeth olygu'r gyfres Cof Cenedl: Ysgrifau ar Hanes Cymru, yr 11 cyfrol ar Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg a'r cyfrolau ar Ddiwylliant Gweledol Cymru.

Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

Dafydd Elis-Thomas (yn y canol gyda Ieuan Wyn Jones a Dafydd Wigley)Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Elis-Thomas (yn y canol gyda Ieuan Wyn Jones a Dafydd Wigley)

Ym mis Chwefror, bu farw'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, un o ffigyrau gwleidyddol mwyaf blaenllaw a lliwgar Cymru dros yr hanner canrif ddiwethaf.

Cafodd ei ethol fel Aelod Seneddol dros Blaid Cymru yn 1974, ac yntau ond yn 27 oed - yr ieuengaf o'r 635 o aelodau.

Fe gynrychiolodd Meirionnydd - a Meirionnydd Nant Conwy yn ddiweddarach - tan 1992, pan ddaeth yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi.

Bu hefyd yn arweinydd ar Blaid Cymru rhwng 1984 a 1991, gan eistedd fel Aelod Cynulliad - ac yna Aelod o'r Senedd - rhwng 1999 a 2021.

Ef oedd Llywydd cyntaf y Cynulliad, gan wasanaethu tan 2011.

Selwyn Williams

Selwyn WilliamsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Selwyn Williams

Ym mis Chwefror bu farw Selwyn Williams, ymgyrchydd ac academydd fu'n flaengar ym maes sefydlu mentrau cymunedol.

Gwnaeth hyn yn ei ardal ei hun ym Mlaenau Ffestiniog drwy Cwmni Bro, a chyn hynny yn Llanrug lle y bu'n greiddiol wrth i'r papur bro Eco'r Wyddfa gael ei sefydlu yn yr 1970au.

Marged Esli

Marged EsliFfynhonnell y llun, Marged Esli
Disgrifiad o’r llun,

Marged Esli

Bu farw'r actores, y gyflwynwraig a'r awdures Marged Esli yn 75 oed ym mis Mawrth.

Wedi'i magu yng Ngwalchmai ar Ynys Môn, roedd Marged Esli Charles-Williams yn fwyaf adnabyddus am actio cymeriadau fel Nansi Furlong yn y gyfres opera sebon Pobol y Cwm, a'r brif ran yn y ffilm Madam Wen ar S4C yn 1982.

Fe ymddangosodd mewn cyfresi comedi fel Porc Peis Bach, a bu'n actio hefyd mewn sawl rhaglen i blant gan bortreadu'r cymeriad adnabyddus Dwmplen Malwoden yn y gyfres boblogaidd Caffi Sali Mali, a chyflwyno rhaglenni fel Bilidowcar gyda Hywel Gwynfryn.

Nesta Wyn Jones

Nesta Wyn JonesFfynhonnell y llun, Marian Delyth
Disgrifiad o’r llun,

Nesta Wyn Jones

Ym mis Ebrill bu farw'r bardd a'r llenor Nesta Wyn Jones.

Yr hynaf o bedwar o blant, cafodd ei magu yng Nghwm Abergeirw, Gwynedd.

Bu'n gweithio ym Mhrifysgol Bangor ac yn gweithio ar gyfres Gorwelion ac yna gyda Chyngor Llyfrau Cymru yn Aberystwyth.

Cyhoeddodd sawl cyfrol, gan gynnwys Cannwyll yn Olau, Ffenest Ddu, a Dawns y Sêr ac ym 1987, enillodd wobr Cyngor y Celfyddydau am ei chyfrol o farddoniaeth, Rhwng Chwerthin a Chrio.

Geraint Jarman

Geraint Jarman

Bu farw'r canwr, y bardd a'r cynhyrchydd teledu Geraint Jarman yn 74 oed.

Cafodd ei albwm cyntaf, Gobaith Mawr y Ganrif, ei ryddhau yn 1976.

Cyhoeddodd sawl albwm arall fel artist unigol a gyda'i fand 'Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr', gan gynnwys Tacsi i'r Tywyllwch, Hen Wlad Fy Nhadau a Diwrnod i'r Brenin.

Ymhlith ei ganeuon mwyaf adnabyddus mae Gobaith Mawr y Ganrif, Tacsi i'r Tywyllwch, Methu Dal y Pwysau a Gwesty Cymru.

Yn y teyrngedau iddo, cafodd ei alw'n "gawr diwylliannol Cymru" ac "un o'r mwyaf dylanwadol erioed".

Wynne Williams

Wynne WilliamsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Wynne Williams

Bu farw'r cerddor a'r tiwtor offerynnau o Ben Llŷn, Wynne Williams yn 67 oed ym mis Mai.

Roedd yn aelod amlwg o nifer o fandiau pres yn y gogledd gan gynnwys Band Porthaethwy a Band Trefor a bu'n hyfforddi bandiau pres Ieuenctid Gwynedd a Môn.

Bu hefyd yn aelod o'r band poblogaidd Y Ficar a ddaeth i amlygrwydd yn y 1980au.

Iris Williams

Iris WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Iris Williams

Ym mis Gorffennaf, bu farw'r gantores o Gymru Iris Williams yn 79 oed.

Cafodd ei geni ym Mhontypridd a'i magu yn Nhonyrefail. Ond fe dreuliodd sawl cyfnod o'i bywyd yn yr UDA - yn Efrog Newydd ac yn fwyaf diweddar yng Nghaliffornia, ble bu farw.

Bu'n gweithio mewn ffatri cyn iddi dderbyn ysgoloriaeth i fynychu'r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama.

Roedd yn fwyaf adnabyddus fel cantores, yn canu 'Pererin Wyf' ac fe enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru yn 1974 gyda'r gân 'I gael Cymru'n Gymru Rydd'.

Yn 1979 fe gyrhaeddodd 20 uchaf siartiau'r DU gyda'r gân 'He Was Beautiful' ac fe ddaeth yn enw cyfarwydd.

O ganlyniad i'w phoblogrwydd cafodd gyfres ei hun ar y BBC, perfformiadau Royal Variety, cabaretau mawreddog a gyrfa ryngwladol a barhaodd am fwy na phedair degawd.

Annette Bryn Parri

Annette Bryn Parri
Disgrifiad o’r llun,

Annette Bryn Parri

Bu farw'r gyfeilyddes a'r hyfforddwraig o Ddeiniolen, Annette Bryn Parri yn 62 oed.

Ers yn blentyn ifanc iawn roedd hi â'i bryd ar ganu'r piano a bu'n gyfeilydd i nifer o sêr - yn eu plith Bryn Terfel, Aled Jones, Rebecca Evans, Eirian James, Rhys Meirion, Gwyn Hughes Jones a Leah Marian Jones.

Bu hefyd yn cyfeilio i Hogia'r Wyddfa am flynyddoedd.

Y Parchedig Marcus Wyn Robinson

Y Parchedig Marcus Wyn RobinsonFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Y Parchedig Marcus Wyn Robinson

Bu farw'r gweinidog y Parchedig Marcus Wyn Robinson o ardal Caernarfon yn 70 oed.

Bu'n gweithio fel caplan i'r Llynges Frenhinol yn ystod rhyfeloedd y Falklands a'r Gwlff cyn cael ei benodi yn ysgrifennydd cyffredinol holl gaplaniaeth y môr.

Roedd yn weinidog yn ardal Dyffryn Peris ar ddechrau ac ar ddiwedd ei yrfa, ac roedd yn adnabyddus fel cymeriad llawn hiwmor oedd hefyd yn arbenigwr ar winoedd.

Hefin David

Hefin DavidFfynhonnell y llun, Matthew Horwood/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hefin David

Bu farw'r Aelod o'r Senedd Hefin David yn 47 oed ym mis Awst.

Roedd wedi bod yn aelod Llafur dros etholaeth Caerffili ers 2016. Roedd Mr David yn un o aelodau mwyaf amlwg Llafur yn y meinciau ôl, a doedd dim ofn ganddo i fynd yn erbyn ei blaid ei hun ar adegau.

Roedd yn boblogaidd gyda gwleidyddion o'r holl bleidiau a newyddiadurwyr ym Mae Caerdydd, ac roedd yn adnabyddus am ei gyfraniadau bywiog i ddadleuon yn y siambr.

Roedd hefyd yn un o bum comisiynydd yn y Senedd, yn gyfrifol am y ffordd mae'r sefydliad yn rhedeg o ddydd i ddydd.

Tom Bryniog

Tom BryniogFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Tom Bryniog

Bu farw'r canwr a'r ffermwr poblogaidd Tom Bryniog o Felin-y-coed ger Llanrwst yn 89 oed.

Bu Tom 'Bryniog' Davies yn canu fel bariton ers ei arddegau gan ennill nifer fawr o wobrau eisteddfodol.

Wedi dechrau cystadlu, daeth yn fuddugol deirgwaith yn olynol yng Ngŵyl Fawr Aberteifi, ac enillodd gystadleuaeth y Princeps Cantorum yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn 1969.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Lliw, 1980, fe enillodd y Rhuban Glas gyda chanmoliaeth uchel.

Alun Gibbard

Alun GibbardFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Alun Gibbard

Bu farw'r awdur toreithiog a'r darlledwr Alun Gibbard yn 65 oed ym mis Tachwedd.

Yn ei flynyddoedd cynnar roedd Alun yn adnabyddus fel cynhyrchydd a chyflwynydd - am flynyddoedd bu'n darllen bwletinau Radio Cymru ac roedd yn rhan o dîm cynhyrchu a chyflwyno Dechrau Canu, Dechrau Canmol a rhaglenni cwmni Tinopolis ymhlith eraill.

Yn fwyaf diweddar roedd yn cael ei adnabod fel awdur dawnus ac ysgrifennu oedd ei fywoliaeth.

Hazel Walford Davies

Hazel Walford DaviesFfynhonnell y llun, Cymdeithas Ddysgiedig Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Hazel Walford Davies

Hefyd ym mis Tachwedd bu farw'r Athro ac awdur, Hazel Walford Davies yn 85 oed.

Yn arbenigwr ar fyd y ddrama yng Nghymru, bu'n Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna'n Athro ym Mhrifysgol De Cymru.

Roedd yn awdur a golygydd ar sawl cyfrol nodedig, a hi oedd un o'r awdurdodau pennaf ar fywyd a gwaith Syr O M Edwards, gan ennill gwobr categori ffeithiol Llyfr y Flwyddyn yn 2021 am ei chofiant ohono.

Sulwyn Thomas

Sulwyn Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sulwyn Thomas yn fwyaf enwog am gyflwyno rhaglen radio Stondin Sulwyn ar BBC Radio Cymru

Bu farw'r newyddiadurwr a'r cyflwynydd, Sulwyn Thomas yn 82 oed.

Roedd yn fwyaf enwog am gyflwyno'r rhaglen radio Stondin Sulwyn ar BBC Radio Cymru - un o raglenni mwyaf poblogaidd yr orsaf.

Daeth y rhaglen yn hynod boblogaidd adeg eira 1982 wrth i gyfranwyr o bob man ffonio Stondin Sulwyn i ganslo digwyddiadau, roedd rhai yn gofyn am gymorth i fynd i ymweld â chlaf neu ffrind ac eraill yn cynnig cymwynasau lu i gyd-wrandawyr.

Treuliodd Sulwyn Thomas hefyd gyfnod fel cyflwynydd teledu, gan gyflwyno Y Sioe Fach, rhaglenni o Sioe Llanelwedd, a Ffermio rhwng 1997 a 2004.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb