'Profiad sy'n newid bywyd' - allech chi wneud Race Across the World?

Daeth Sioned Cray a Fin Gough yn drydydd mewn ras saith wythnos drwy China, Nepal ac India
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gystadleuwyr Cymreig rhaglen deledu Race Across the World wedi disgrifio'r profiad fel un "swreal sy'n newid bywydau", wrth i'r gyfres alw am gystadleuwyr newydd.
Mae Race Across the World y BBC, gafodd ei darlledu gyntaf yn 2019, yn dilyn pum pâr yn rasio ar draws y byd ac yn cynnig gwobr ariannol o £20,000 i'r pâr sy'n cyrraedd y pwynt terfynol gyntaf.
Ond dydy'r cystadleuwyr ddim yn cael defnyddio ffonau na'r rhyngrwyd, mae ganddyn nhw swm cyfyngedig o arian a dydyn nhw ddim yn cael hedfan.
Cymerodd Sioned Cray a Fin Gough o Nantgaredig, Sir Gaerfyrddin, ran yn y gystadleuaeth yn 2025, gan ddod yn drydydd ar ôl ras saith wythnos drwy China, Nepal ac India.
Mae cyn-gystadleuwyr eraill o Gymru, gan gynnwys Cathie Rowe a Tricia Sail o Aberystwyth, a enillodd cyfres tri, wedi dweud bod y profiad yn un "gwallgof, swreal, a newidiodd ein bywydau".
Cafodd hysbyseb ei ryddhau ar gyfer chweched gyfres y rhaglen ddydd Sadwrn, gan awgrymu taith epig newydd o Ewrop i "ymylon anhysbys" Mongolia.
'Dim syniad i ble roedden ni'n mynd'
Cymerodd Fin Gough, 19 oed a Sioned Cray, 21 oed o Nantgaredig, Sir Gaerfyrddin, ran yn Race Across the World yn 2025.
"Roedd yn frawychus iawn cael ein ffonau wedi'u tynnu oddi arnom heb unrhyw syniad i ble roedden ni'n mynd," meddai Fin.
Dywedodd Sioned fod y ras yn heriol iawn ac ar adegau roedd hi'n cael trafferth ond bellach mae hi'n dweud bod teithio'n "haws ac yn fwy pleserus".

Mae'r cwpl wedi parhau i deithio'r byd ers cystadlu, gan gynnwys ymweld ag Uyuni yn Bolivia
Treuliodd y cwpl fis yn Ne America yn ddiweddar a'u hantur nesaf yw Morocco i ddathlu pen-blwydd Fin yn 20 oed.
Dychwelodd Fin a Sioned i India yr haf diwethaf, lle digwyddodd cyfres pump.
Esboniodd Sioned: "Aethom yn ôl i India yn yr haf y llynedd oherwydd fy mod eisiau ymweld â Saith Rhyfeddod y Byd.
"Roeddwn i'n benderfynol o weld y Taj Mahal oherwydd doedd dim amser gyda ni i wneud hynny wrth rasio ar draws India."
Mae'r cwpl wedi ymweld ag 16 o wledydd gwahanol ers cystadlu yn Race Across the World, o Indonesia i Sri Lanka.

Dywedodd Tricia, sydd â chyflwr llygaid dirywiol, ei bod hi'n aml wedi cael gwybod na allai "wneud pethau" oherwydd ei golwg
Cathie Rowe, 50 oed, a Tricia Sail, 49 oed, ffrindiau gorau o'r ysgol yn Aberystwyth, oedd enillwyr cyfres tri ar ôl iddyn nhw rasio o Vancouver i Newfoundland.
Roedd Tricia, sydd â chyflwr llygaid dirywiol, yn awyddus i ymgymryd â'r her tra roedd hi'n dal i allu a disgrifiodd y ras fel "y daith fwyaf gwallgof, mwyaf swreal, a newidiodd fy mywyd".
"Cyn y ras roeddwn i'n cael trafferth gyda fy iechyd meddwl, doedd gen i ddim hunan-gred o gwbl," meddai Tricia.

Mae Cathie a Tricia wedi parhau i deithio gyda'i gilydd ers cymryd rhan yn y rhaglen, gan gynnwys ymweld â Machu Picchu yn Peru
Esboniodd Tricia sut roedd cael gwybod beth "na allai ei wneud" oherwydd ei hanabledd yn effeithio ar ei hyder.
"Roedd pobl yn aml yn dweud wrtha i na allwn wneud pethau oherwydd fy ngolwg," meddai Tricia.
"Pan ddechreuais golli fy ngolwg, cefais fy nghynghori i beidio â defnyddio'r popty hyd yn oed rhag ofn i mi losgi fy hun.
"Pan chi'n clywed y math yna o beth am 10 mlynedd rydych chi'n rhoi'r gorau i wneud pethau newydd.
"Ers mynd ar y rhaglen, rydw i nawr yn rhoi cynnig ar bethau."
Dywedodd Tricia mai cael anabledd oedd y rheswm pam ei bod hi eisiau mynd ar y rhaglen er mwyn iddi allu "dangos beth all pobl ag anableddau ei wneud".

Enillodd Cathie Rowe a Tricia Sail wobr o £20,000 ar ôl rasio o Vancouver i Newfoundland yng nghyfres tri
Dywedodd Cathie y byddai'n "ei wneud eto mewn curiad calon".
"Dydych chi ddim yn meddwl am eiliad y byddwch chi'n cael eich dewis pan chi'n gwneud cais, felly pan chi yn cael eich dewis chi'n meddwl 'wow, mae hyn yn anhygoel'."
Mae Cathie wedi parhau i deithio'r byd gyda Tricia a'i gŵr Gareth.
Mae hi wedi ymweld â Mur Mawr China a Machu Picchu yn Peru heb unrhyw gynlluniau i roi'r gorau i ymgymryd ag anturiaethau teithio newydd yn y dyfodol.
"Mae bod ar y rhaglen wedi rhoi llawer mwy o hyder i mi wrth deithio y tu allan i gyrchfannau twristaidd arferol.
"Rwyf am weld pethau, nid dim ond hedfan i rywle a gorwedd ar y traeth," ychwanegodd.
O Singapore i'r Tube: Y Gymraes fu'n gweithio ar brosiectau ar draws y byd
- Cyhoeddwyd10 awr yn ôl
Sioned a Fin: 'Hawdd cadw cyfrinach' canlyniad Race Across the World
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2025
Profiad 'anhygoel' cwpl ifanc o Sir Gâr yn ffilmio Race Across the World
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2025
Mae'r apêl i gystadleuwyr newydd ar wefan y BBC yn datgan: "Mae'r profiad hwn ar agor i bawb, boed eich bod yn deithiwr profiadol neu'n ddechreuwr llwyr.
"Rydym am glywed beth fyddai ymgymryd â thaith fel hon yn ei olygu i chi, a gyda gwobr ariannol yn y fantol, pa mor bell fyddech chi'n mynd i ennill."
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 29 Mawrth 2026.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.