Rhybudd am berygl i glyw cerddorion a'r rhai sy'n gwrando

Rhodri DanielFfynhonnell y llun, Rhodri Daniel
Disgrifiad o’r llun,

Bu Rhodri Daniel yn aelod o fand Yr Estrons cyn i drafferthion gyda'i glyw wneud hynny'n anodd

GanRhodri Tomos
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Yn ôl ymchwil gan elusen Tinnitus UK, mae tri o bob pum cerddor proffesiynnol wedi colli rhan o'u clyw, ac mae'r niwed yn barhaol.

Dyw'r newyddion fawr gwell i'r rhai sy'n hoffi gwylio a gwrando ar gerddoriaeth fyw, gydag un o bob pump yn byw gyda chyflwr tinitws.

Mae'r cyflwr yn golygu bod dioddefwyr yn clywed synau parhaus yn eu clustiau sydd ddim o ffynhonnell allanol.

I rai mae'n gallu arwain at gyflyrau mwy difrifol fyth.

Estrons
Disgrifiad o’r llun,

Rhodri Daniel (ail o'r chwith) gyda'r Estrons yn 2018

Bu Rhodri Daniel yn aelod o fand Yr Estrons rhwng 2013 a 2019, a bu'n sgwrsio am y cyflwr ar raglen y Post Prynhawn ddydd Llun ar BBC Radio Cymru.

"Ni gyd fel cerddorion yn cael tinitws nawr ac yn y man... weithiau am gwpwl o oriau ar ôl ymarfer neu gig," meddai.

"Fel arfer mae'n mynd i ffwrdd ar ôl cwpwl o oriau ond weithiau ar deithiau mwy diweddar y band roedd y tinitws yn goroesi am ddau, tri, bedwar diwrnod ac o'n i'n becso wedyn.

"Yna ar ôl un daith naeth e jyst byth mynd i ffwrdd."

Rhodri Daniel
Disgrifiad o’r llun,

Yr Estrons yn perfformio ar raglen Annie Mac ar Radio 1

Arweiniodd hynny at Rhodri yn y pen draw yn datblygu cyflwr arall o'r enw hyperacusis, cyflwr lle mae pob sŵn yn cael ei chwyddo a'r clustiau yn mynd yn or-sensitif i bob math o synnau.

Ond beth yw'r ateb i'r broblem?

Y cyngor i gerddorion erbyn hyn yw i wisgo plygiau yn eu clustiau tra'n ymarfer neu berfformio, ond dyw hynny ddim mor hawdd i gynulleidfaoedd.

Ychwanegodd Rhodri: "Dyw e jyst ddim yn ymarferol newid y rheolau o ran lefel y sŵn mewn gigs, achos os yw e'n llai nag 85 decibel mae'n gallu lladd y vibe.

"I bobl sy'n mynd i gigs dyle neb fod reit ar bwys y llwyfan neu'r speakers, ond nid jyst pa mor uchel yw'r sŵn ond pa mor hir ti'n gwrando arno fe - dyna mae pobl yn anghofio."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: