Ar ôl 3 blynedd yn dygymod â phroblem clyw mae'r cerddor yn dychwelyd at gerddoriaeth.
Mae'r cerddor Rhodri Daniel a chyn aelod o'r grŵp llwyddiannus Estrons wedi siarad gyda Chymru Fyw am y profiad o fyw gydag afiechyd Hyperacusis.
Mae Hyperacusis yn gyflwr sy'n effeithio'r clustiau neu'r ymennydd sydd yn golygu bod person yn rhy sensitif i sŵn. Mae'n golygu ei fod yn anodd delio gyda sŵn arferol o ddydd i ddydd - fel ceir, siarad, yr adar, neu synau mewn tafarn neu fwyty.
Ers rhai blynyddoedd mae'r cyflwr wedi cymryd drosodd bywyd pob dydd Rhodri ac wedi bygwth tynnu beth mae'n ei garu fwyaf oddi arno, sef cerddoriaeth.
"Nes i sylweddoli bod rhywbeth difrifol yn digwydd i clustie' fi," meddai Rhodri, 34 o Lambed, wrth gofio'n ôl i pan sylweddolodd fod rhywbeth mawr o'i le dair blynedd yn ôl.
"Chi jest methu delio gyda fe rhagor. Yn anffodus i rywun sydd yn creu cerddoriaeth fel bywoliaeth mae e yn eithaf difrifol."

Y cerddor Rhodri Daniel - aelod gwreiddiol o'r grŵp roc Estrons o Gaerdydd rhwng 2013 a 2019. Fe ddechreuodd y band, oedd wedi rhyddhau caneuon Cymraeg a Saesneg, wedi i Rhodri gyfarfod y gantores Tali Källström yn Aberystwyth.
Ond ar ôl cael ei annog i fynd i gerdded yn yr awyr agored er mwyn helpu'r cyflwr mae Rhodri wedi llwyddo cyrraedd lle gwell.
Er bod effaith y cyflwr dal yr un peth, ac er nad oes datrysiad uniongyrchol i Hyperacusis mae Rhodri wedi dysgu i allu delio â'r cyflwr. Erbyn hyn - yn rhyfeddol iawn, mae wedi llwyddo i ysgrifennu albwm newydd cyfan yn ei ben.
Hyperacusis
"Ni gyd yn gyfarwydd gyda tinnitus pan ry'n ni yn mynd i gigs neu i'r nightclub a ni'n dod 'nôl ac mae clustie' ni yn kind of screchen," esbonia Rhodri, sy'n arwain proseict SEACAMS 2 ar ddyfodol di garbon a cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor.
"Fel arfer ma' hwnna'n mynd i ffwrdd. Mae tinnitus yn symptom yn fwy nag afiechyd - ma' fe'n rhywbeth sydd yn gallu digwydd os ti'n cael annwyd, neu ben tost neu ti'n bwrw dy ben neu rywbeth. Neu mae'n gallu digwydd achos stress, neu achos ti 'di clywed rhywbeth rhy uchel.
"Tuag at y diwedd pan o'n i'n teithio gyda Estrons o'n i'n dechrau sylwi bo' fi'n cael poen yn fy nghlustie' ac roedd y synau 'ma yn mynd a dod mwy na fel arfer."

Roedd Estrons yn un o fandiau mwyaf Cymru ar un cyfnod a roedden nhw yn adnabyddus fel band byw wnaeth deithio yn ddi-ddiwedd am flynyddoedd yn cefnogi bandiau fel Slaves, Garbage a The Amazons
Ar ôl i Estrons ddod i ben ac ar ddiwedd blynyddoedd o deithio yn ddi-dor cafodd Rhodri lawer o amser i ganolbwyntio ar y sŵn. Y mwyaf roedd o'n canolbwyntio ar y synau hyn daeth ei ymennydd i greu'r synau yn amlycach yn ei ben.
"Ma' fe'n troi ei hunain lan achos mae dy ymennydd di yn canolbwyntio arno fe shwt gymaint felly nath e jest gwaethygu a gwaethygu."
"Rhywbeth difrifol"
Aeth Rhodri ati i geisio creu grwpiau newydd a dechrau gigio eto ac o wneud hynny fe sylweddolodd fod rhywbeth mawr o'i le.
Meddai: "Nes i sylweddoli bod rhywbeth difrifol yn digwydd i clustie' fi. Bo' fi'n ofnadwy o sensitif i sŵn a bod sŵn y tinnitus ddim yn mynd ffwrdd rhagor, bod e jest yn aros. Nath e waethygu i'r pwynt lle doeddwn i methu gweithio rhagor."
Symudodd i fyw gyda'i deulu gan nad oedd o'n gallu delio gyda synau arferol o ddydd i ddydd a threuliodd flwyddyn gyfan heb gymdeithasu a heb waith. Fe gollodd hefyd y gallu i greu cerddoriaeth.

Estrons pan wnaethon nhw chwarae fel y prif grŵp ar lwyfan BBC Introducing yng Ngŵyl South By South West yn Texas, 2016
Yn y byd meddygol does dim datrysiad syml i Tinnitus na Hyperacusis ac mae nifer o ffactorau gwahanol fel straen, sŵn uchel, anaf pen, neu heintiau yn medru bod yn sbardun.
"Yn anffodus does dim byd maen nhw'n gallu gwneud am Hyperacusis a Tinnitus. Dyw nhw ddim yn gwybod be sy'n achosi fe a dyw nhw definitely ddim yn gwybod shwt i ddelio gyda fe."
Cafodd Rhodri flwyddyn o driniaeth a therapi, rhywbeth tebyg i cognative behavioural therapy, ble mae therapyddion yn ceisio gwneud person â Hyperacusis yn gyfarwydd â'r sŵn fel nad ydi rhywun yn ei glywed rhagor.
Ni weithiodd y driniaeth iddo ac fe barhaodd i fyw ei fywyd heb y gallu i greu cerddoriaeth. Ond daeth gobaith i Rhodri, a hynny wrth fynd i gerdded llwybrau arfordir Cymru.
"Wnaethon nhw ddweud wrtha i i fynd i gerdded ac i'r outdoors i drio gwella fy sefyllfa a fy agwedd at y cyflwr. Felly dyna nes i."

Rhodri ar lwybr arfordir Cymru
'Ddim mor ddychrynllyd'
"Odd e bach fel Forrest Gump rili... es i lawr y lôn o Aberaeron a phenderfynu cerdded i Cei Newydd, wedyn nes i benderfynu cerdded yn bellach a nes i jest cadw fynd. Nes i drio gwneud yr holl wlad wedyn ar hyd llwybr yr arfordir," meddai Rhodri.
"Mae e wedi helpu fi ac erbyn nawr mae'r afiechyd yn gwmws yr un peth ond fi'n delio gyda fo lot gwell. Fi'n gwbo sut i ddelio gyda fe nawr a dyw e ddim mor ddychrynllyd."
Cafodd Rhodri amser i feddwl wrth gerdded ar hyd yr arfordir a sylweddolodd pa mor benderfynol oedd o i gerddoriaeth fod yn rhan o'i fywyd.

"Nes i benderfynu os fi'n mynd i fod yma yn y byd, bod rhaid i fi greu cerddoriaeth mewn rhyw ffordd. Felly nes i benderfynu bod rhaid i fi stopio teimlo mor sori dros fy hunain a bo' rhaid i fi greu cerddoriaeth."
"Wnaeth y gerddoriaeth ddechrau dod ato fi tra o'n i'n campio lawr yn Sir Benfro a de Sir Ceredigion."
Ysgrifennodd Rhodri albwm cyfan yn ei ben gydag ysbrydoliaeth gan chwedl Cantre'r Gwaelod cyn dychwelyd adref a'i recordio.

Lluniau o'i daith ar hyd arfordir Sir Benfro
'Daw Eto Haul'
Gyda Hyperacusis does dim modd gwrando ar synau uchel. Os yn gerddoriaeth mae'n rhaid iddo fod o dan 90-100 desibel sy'n cymharu â 120 desibel pan oedd Rhodri yn chwarae ar lwyfan gyda Estrons.
"Fi nawr mewn stage lle fi just about yn gallu mynd mewn i gyngerdd a sefyll yn y back a rhoi earplugs rili cryf mewn," meddai.
"Am y tro cyntaf ers tair blynedd fi'n gallu mynd mewn i gyngerdd felly fi yn obeithiol o fewn cwpwl o flynyddoedd bydd yr afiechyd wedi gwella ychydig a falle un dydd bydda i yn gallu mynd allan ar y llwyfan gyda thechnoleg newydd."

Mae Rhodri wedi dechrau prosiect cerddoriaeth newydd o dan yr enw heddlu
Mae technoleg hefyd yn caniatáu i Rhodri allu recordio cerddoriaeth yn eithaf tawel i mewn i gyfrifiadur, cyn ei glywed yn ôl yn ddistaw.
O dan yr enw Heddlu mae Rhodri yn barod i ryddhau albwm ac mae eisoes wedi rhyddhau ei gân gyntaf, Daw Eto Haul, sengl gafodd ei ysbrydoli gan eiriau ei chwaer.
"Nes i weld y wawr yn dod dros y môr yng Ngheredigion a wnaeth e atgoffa fi o eiriau fy chwaer, "Daw Eto Haul ar Fryn", wnaeth helpu fi trwy amseroedd eithaf tywyll gyda'r afiechyd.
"Mae e jest yn neges i ddweud fod dyddie' gwell i ddod a dim i roi lan."
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Hefyd o ddiddordeb