Galw ar bobl i gymryd gofal ar y mynyddoedd yn y tywydd garw

Mynyddoedd EryriFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae tîm achub mynydd yn galw ar bobl i "gynllunio ymlaen llaw yn well" ar ôl cael eu blwyddyn brysuraf ar gofnod.

Wrth nodi 60 mlynedd ers ei sefydlu, mae Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen yn dweud bod niferoedd y galwadau'n cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn – gydag 186 o alwadau yn ystod 2025.

Dywedodd un o ymddiriedolwyr y tîm, Gareth Pritchard, ei fod "yn bryder faint o alwadau 'da ni'n eu cael rŵan".

"Yn drist iawn yn ystod y ddwy flynydd ddiwethaf hefyd mae'r nifer mwyaf o farwolaethau ar y mynyddoedd o gwmpas Dyffryn Ogwen" ac mae'n galw am ofal yn ystod tywydd garw y dyddiau nesaf.

Ar Dros Frecwast fore Gwener dywedodd Mr Pritchard: "Dwi'n meddwl ers adeg y clo ma' 'na mwy o bobl yn mynd allan i'r mynyddoedd – sy'n dda.

"Ond ma'r cyfryngau cymdeithasol yn rhoi gwybodaeth allan sy' ddim bob amser yn gwbl glir ac yn denu pobl i fannau peryglus," meddai.

"'Da ni isio pobl sbïo cyn mynd allan be 'di'r tywydd, meddwl am yr offer sy' gynnoch chi a meddwl am eich sgiliau hefyd.

"Ma' isio meddwl a chynllunio mewn tipyn bach mwy o fanylder am y siwrne 'da chi am ei 'neud," meddai.

'Gobeithio na fydd y ffigwr yn cynyddu'

Esboniodd bod llawer o waith yn mynd ymlaen yn y cefndir "i genfogi pobl sy'n gwirfoddoli ac yn mynd allan i helpu pobl".

"'Da ni 'di edrych fel ymddiriedolwyr sut i gryfhau'r tîm a chael y sgilia' arweinyddol achos ma'r galwadau'n cynyddu ac yn aml ma' gynno ni alwada' ar yr un adag," meddai.

Ychwanegodd bod gan aelodau'r tîm sgiliau amrywiol sy'n hollbwysig.

"Ma' gynno ni lot o bobl sy' 'da sgiliau medydgol – sy'n hanfodol ar y mynyddoedd.

"Ma gynno ni lot o bobl sy'n mynydda yn broffesiynol hefyd ond be' sy'n bwysig ydy bod y bobl yma ar gael.

"Ma' pobl yn gweithio - mae'n anorfod ymateb bob awr o'r dydd a'r nos felly mae'r hyblygrwydd yna'n hynod o bwysig hefyd."

Aeth ymlaen i ddweud eu bod yn cael galwadau ar draws y rhanbarth - "o ardal Ogwen, y Glyderau, y Carneddau, lawr at Ddyffryn Conwy, lawr am Betws-y-coed a rhaeadr Aber".

Gyda'r tywydd garw sydd i'w ddisgwyl dros y dyddiau nesaf mae'n ymbil ar bawb i gymryd gofal a chynllunio'n fanwl cyn mynd ar daith.

"Gobeithio felly neiff y ffigwr yma ddim cynyddu ymhellach yn y blynyddoedd sydd i ddwad."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.