Cyhuddo dyn o beryglu bywyd drwy yrru cerbyd JCB mewn i dafarn

Tafarn y New Inn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd difrod i du blaen tafarn y New Inn yn amlwg wedi'r digwyddiad

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo yn dilyn adroddiadau bod cerbyd JCB wedi cael ei yrru mewn i dafarn yn Y Rhigos.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Heol Smiths tua 20:45 nos Iau.

Roedd adroddiadau hefyd fod yr unigolyn wedi gyrru dros gar gwag oedd wedi parcio ar y stryd.

Mae Daniel Morgan, 35 oed o'r Rhigos, wedi cael ei gyhuddo o ladrata, dwyn cerbyd a difrodi eiddo, gyrru yn beryglus ac achosi difrod troseddol a pheryglu bywyd.

Ar ôl cau dros y penwythnos, fe ddywedodd tafarn y New Inn mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol nos Sul fod yr adeilad yn ddiogel a'u bod yn bwriadu agor fel yr arfer brynhawn Llun.

Ni chafodd unrhyw un eu hanafu yn y digwyddiad.

Bydd Mr Morgan yn cael ei gadw yn y ddalfa tan ei ymddangosiad nesaf yn y llys ddechrau mis Ionawr.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.