Cyn-AS: Colli cefnogaeth Cymry Cymraeg yn argyfwng i Lafur
Mae Llafur Cymru yn wynebu 'crisis cenedlaethol', medd Alun Davies cyn-AS
- Cyhoeddwyd
Mae'r Blaid Lafur yng Nghymru yn wynebu argyfwng cenedlaethol, medd Alun Davies a gollodd ei sedd wedi etholiad y Senedd.
Mae'r canlyniad, meddai, yn adlewyrchu'r ffaith bod y blaid Lafur " wedi colli cefnogaeth ar draws y wlad ac os 'dach chi'n edrych ar y map gwleidyddol, does dim cynrychiolaeth ganddon ni ar draws y Gymru wledig, a dwi'n credu bod hynny yn grisis go iawn".
"Mae'r ffaith bod ni wedi colli cefnogaeth ymhlith y Cymry Cymraeg yn grisis cenedlaethol i ni.
"Rhaid i ni gydnabod hynny a meddwl o ddifri sut ydan ni'n dod yn blaid Cymru eto."
Un Aelod Senedd Llafur sy'n gwbl rhugl yn y Gymraeg a dau Aelod Seneddol, ychwanegodd gan ategu ei fod yn credu bod siarad Cymraeg yn bwysig i ddenu cefnogaeth i'r blaid ar draws Cymru.
"Pan es i i'r coleg yn Aberystwyth roedd cyfarfodydd y Blaid Lafur yno drwy gyfrwng y Gymraeg, ond ar hyn o bryd dydy hynny ddim yn digwydd."

Naw sedd a gipiodd Llafur wedi'r etholiad ar 7 Mai
Dywedodd Alun Davies, a gollodd ei sedd Lafur ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni yn yr etholiad, fod hi'n bwysig bod etholwyr yn rhan o drafodaethau am y dyfodol.
"Dwi'n meddwl fod rhaid i ni (Llafur) gynnal sgwrs genedlaethol.
"Ma' rhaid i ni fel plaid drafod beth aeth o'i le, sut ni wedi bennu lan yn colli ddim jyst y llywodraeth ond colli y bobl, colli hyder pobl Cymru, a ma' rhaid i hynny ddigwydd cyn bo ni'n cael etholiad ar gyfer yr arweinyddiaeth Gymraeg.
"Rhaid sefydlu grŵp sefydlog a bod ni'n gallu ffeindio rôl newydd i'r Blaid Lafur tu fewn i'r Senedd newydd."
Amser i Keir Starmer ymddiswyddo
Wrth edrych ar y blaid yn San Steffan mae Alun Davies yn galw ar y Prif Weinidog i ymddiswyddo.
Dywedodd bod y "gravity gwleidyddol i weld yn symud yn erbyn Keir Starmer, dwi ddim yn gweld sut mae'n gallu aros yn Downing Street.
"Be dan ni'n gweld yw bod Keir Starmer wedi colli Cymru, colli aelodau, colli etholwyr ac mewn sefyllfa felly, mae'n annheg i bawb fod Keir Starmer yn aros yn Downing Street.
"Does gan yr etholwyr yng Nghymru ddim hyder yn Keir Starmer ond mae'r ymosodiadau personol arno a Rachel Reeves dros y misoedd diwethaf yn annheg ac yn afresymol.
"Ond mae wedi methu cynnig yr arweinyddiaeth mae'r wlad angen ar hyn o bryd a mae angen i ni - y Blaid Lafur - gydnabod hynny a symud ymlaen."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr
