Gyrrwr yn cyfaddef achosi marwolaeth cerddwr yn Sir Gâr

Daniel Wyke y tu allan i'r llys ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 28 oed wedi cyfaddef achosi marwolaeth cerddwr a gafodd ei daro gan gar yn Sir Gaerfyrddin.
Bu farw Aaron Jones, 38, wrth iddo fynd â'i gi am dro ym mhentref Llanpumsaint nos Lun, 23 Rhagfyr 2024.
Fe gafodd y tad i ddau o blant ei ddarganfod wedi marw ym mynwent y pentref.
Cafodd Daniel Wyke, o Gaerfyrddin, ei arestio'r diwrnod canlynol.
Blwyddyn yn ddiweddarach cafodd ei gyhuddo o yrru'n beryglus, ac achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Bu farw Aaron Jones yn dilyn gwrthdrawiad â char wrth iddo fynd â'i gi am dro ym mhentref Llanpumsaint
Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun fe blediodd yn euog i'r cyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.
Ond fe wadodd y cyhuddiad o yrru'n beryglus ar Stryd y Dŵr yng Nghaerfyrddin ar ôl y gwrthdrawiad yn Llanpumsaint.
Dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad, Ian Wright, wrth y llys fod "difrod helaeth i ffenestr flaen y cerbyd".
Cafwyd hyd i gorff Mr Jones ar dir yr eglwys leol ger Capel Bedyddwyr Caer Salem.

Clywodd cwest a agorodd ym mis Ionawr fod ci Mr Jones wedi cael ei ddarganfod gan rywun oedd yn mynd heibio, a gysylltodd â'i wraig, gan arwain yr heddlu i chwilio amdano.
Caniataodd y Barnwr Paul Thomas KC i Wyke gael ei ryddhau ar fechnïaeth, ond dywedodd wrtho ei fod wedi'i wahardd rhag gyrru.
Cafodd dyddiad dros dro ei osod ar gyfer ei ddedfrydu, sef 30 Mawrth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2024

- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2024
