Ciwiau wrth i draffig deithio mewn un cyfeiriad ar Bont y Borth

Ciwiau
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ciwiau sylweddol yn ardal Pont Britannia brynhawn Iau wrth i bobl geisio groesi o Fôn i'r tir mawr

  • Cyhoeddwyd

Mae gyrwyr yn cael eu rhybuddio y bydd rheolaeth traffig ar waith ar Bont y Borth am yr wythnos nesaf, wrth i'r gwaith o'i adfer barhau.

Fel bod modd adfer y trawstiau croes ar y bont, dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd traffig yn teithio mewn un cyfeiriad yn unig am 12 awr y dydd.

Bydd y mesurau rheoli traffig mewn lle o ddydd Iau, gyda'r disgwyl iddyn nhw fod ar waith am gyfnod o "tua wyth diwrnod".

Rhwng 07:00 a 13:00 bydd traffig yn gallu croesi o Ynys Môn i'r tir mawr yn unig, a rhwng 13:00 a 19:00 bydd traffig ond yn gallu croesi o'r tir mawr i Ynys Môn.

Rhwng 19:00 a 07:00 bydd signalau traffig arferol ar waith.

Pont y BorthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "cynlluniau diwygiedig wedi lleihau'n sylweddol yr angen i reoli traffig ar y bont"

Yn gynnar fore Iau - er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddai'r drefn newydd mewn lle - y signalau arferol oedd ar waith.

Ond erbyn diwedd y bore roedd y mesurau rheoli traffig ychwanegol mewn lle.

Roedd ciwiau sylweddol yn ardal Pont Britannia wrth i bobl geisio groesi o Fôn i'r tir mawr brynhawn Iau - cyfnod ble nad yw'n bosib croesi o Fôn i Wynedd dros Bont y Borth.

Fis Ionawr daeth i'r amlwg nad oes disgwyl i'r gwaith atgyweirio ar Bont y Borth ddod i ben tan y gwanwyn 2027.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Fel rhan o raglen ehangach a diwygiedig Cam 2 ni fydd mesurau rheoli traffig ond ar waith am gyfnodau byr er mwyn gallu cwblhau elfennau allweddol.

"At ei gilydd mae'r cynlluniau diwygiedig wedi lleihau'n sylweddol yr angen i reoli traffig ar y bont, o'i gymharu â'r cynlluniau cynharach, a thrwy hynny bydd llai o darfu ar drigolion, cymudwyr a busnesau.

"Mae gorfodi'r terfyn pwysau 7.5‑tunnell yn parhau i fod yn hanfodol ar gyfer cynnal gweithrediad diogel y bont tra bo'r gwaith yn parhau.

"Diolch i drigolion, cymudwyr a busnesau am eu hamynedd a'u cydweithrediad parhaus."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.