Dafydd Elis-Thomas ddim am geisio adennill ei sedd

  • Cyhoeddwyd
Dafydd Elis-Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi bod yn aelod Cynulliad ers iddo gael ei sefydlu yn 1999

Mae'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi dweud na fydd yn ceisio adennill ei sedd yn y Cynulliad ar gyfer etholaeth Dwyfor Meirionnydd yn etholiad nesa'r Cynulliad yn 2021.

Mae wedi bod yn aelod Cynulliad ers iddo gael ei sefydlu yn 1999, a bu'n Llywydd rhwng 1999 a 2011.

Cyn hynny bu'n aelod Seneddol rhwng 1974 ac 1992, ac roedd yn arweinydd ar Blaid Cymru rhwng 1984 ac 1991.

Cafodd ei wneud yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi pan adawodd Dŷ'r Cyffredin yn 1992.

Fe adawodd Plaid Cymru yn 2016, ac fe gafodd yr AC annibynnol ei wneud yn ddirprwy weinidog dros dwristiaeth, chwaraeon a diwylliant yn Llywodraeth Lafur Cymru.

'Gweithio mewn ffordd wahanol'

Ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul gofynnodd y cyflwynydd i'r Arglwydd Elis-Thomas a oedd wedi gwneud penderfyniad ar sefyll yn Nwyfor Meirionydd yn 2021.

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan Liz Saville Roberts AS/MP 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan Liz Saville Roberts AS/MP 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

"Naddo ydy'r ateb swyddogol," meddai.

"Yr ateb answyddogol ydy 'mod i wedi gweld gwerth yn y cyfnod yma o weithio mewn ffordd wahanol.

"Mae 'na fwy i fod yn ddinesydd da na bod yn wleidydd etholedig am fwy na 40 mlynedd.

"Gan 'mod i yn cyrraedd, neu wedi cyrraedd, y cyfnod yna o gynrychioli Meirionydd beth bynnag - onid yn gwbl gyson ar hyd y cyfnod yna - am fwy na deugain mlynedd, fydda fo ddim yn gwneud llawer o synnwyr i sefyll etholiad gan wybod y byddwn i'n 78 erbyn diwedd y Cynulliad nesa."

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X 2 gan Mark Drakeford

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X 2 gan Mark Drakeford

Dywedodd Aelod Seneddol yr un etholaeth, Liz Saville Roberts ar Twitter fore Sul ei bod yn diolch iddo "am ei wasanaeth wrth gynrychioli cymunedau Dwyfor, Meirionnydd a Nant Conwy fel Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad".

Ychwanegodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price fod yr Arglwydd Elis-Thomas yn "un o seneddwyr amlycaf a mwyaf amryddawn gwleidyddiaeth Cymru a wnaeth gyfraniad oes i fywyd cyhoeddus".

"Ysbrydoliaeth cynnar i mi yn bersonol fel arweinydd y blaid," meddai.

"Er gwaetha pob siom ers hynny, ga i ddymuno'r gorau i Dafydd yn ddiffuant wedi'r etholiad."

'Degawdau o gyfraniad enfawr'

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford ei fod yn diolch i'r Arglwydd Elis-Thomas am "ddegawdau o gyfraniad enfawr at fywyd Cymru".

"Mae wedi bod yn anrhydedd ei gael yn treulio ei dymor olaf yn y Cynulliad fel aelod mor werthfawr o dîm gweinidogol y llywodraeth," meddai.

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X 3 gan Paul Davies AM/AC

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X 3 gan Paul Davies AM/AC

Ychwanegodd arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Paul Davies fod yr Arglwydd Elis-Thomas⁩ "wedi gwneud cyfraniad helaeth i wleidyddiaeth Cymru dros y degawdau diwethaf".

"Mae ei ymrwymiad a'i ymroddiad wedi bod heb ei ail. Bydd ei brofiad a'i arbenigedd yn golled i'r ⁦⁦Cynulliad," meddai.

Straeon perthnasol