AC yn cwestiynu 'iaith seneddol' Dafydd Elis-Thomas

  • Cyhoeddwyd
Lord Dafydd Elis-Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Dafydd Elis-Thomas y sylw honedig yn Siambr y Cynulliad ddydd Mercher

Mae'r Llywydd wedi cael cais i ddyfarnu os oedd sylw a wnaed gan un o'i rhagflaenwyr yn y Senedd yn "iaith seneddol dderbyniol".

Mae AC Plaid Cymru, Adam Price wedi ysgrifennu at Elin Jones gan honni bod yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi pwyntio at feinciau'r blaid a'u galw'n "bunch of right wing shits".

Mae ACau o bleidiau eraill oedd yn bresennol ar gyfer y ddadl ddydd Mercher ar gynllun i adeiladu carchar newydd ym Mhort Talbot wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod nhw wedi clywed y sylw.

Mae BBC Cymru wedi gofyn am sylw gan Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, cyn-arweinydd Plaid Cymru sydd erbyn hyn yn AC annibynnol.

Camau

Yn ei e-bost at y Llywydd, fe ddywedodd Adam Price, AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr: "Ddoe, yn ystod y ddadl ar garchar Port Talbot, fe glywais Dafydd Elis-Thomas yn glir, o'i sedd, yn pwyntio at feinciau Plaid Cymru gan weiddi '…that bunch of right wing shits'.

"Roedd Andrew RT Davies yn eistedd o flaen Dafydd Elis-Thomas ar y pryd, ac mae ef wedi cadarnhau i mi ei fod wedi clywed y geiriau gan yr aelod dan sylw.

"Hoffwn eich dyfarniad ynglŷn â p'un ai ydy'r geiriau hyn yn iaith seneddol dderbyniol, ac os nad ydynt, pa gamau priodol fydd yn cael eu cymryd."

Adam Price
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Adam Price fod sawl AC arall wedi clywed y sylwadau gan Dafydd Elis-Thomas

Ym mis Hydref 2016, fe benderfynodd yr Arglwydd Elis-Thomas i adael Plaid Cymru ac eistedd fel AC annibynnol.

Cyn gadael roedd AC Dwyfor Meirionydd a chyn-lywydd y Cynulliad wedi cael ei ddisgyblu gan arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood am feirniadu polisi'r blaid.

Mae llefarydd ar ran y Llywydd wedi cadarnhau ei bod hi wedi derbyn yr e-bost.