Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd: De Cymru
- Cyhoeddwyd

Yn ogystal â dewis aelodau cynulliad ar 5 Mai, bydd pleidleiswyr hefyd yn dewis Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd.
Ar hyd llawer o goridor yr M4 i'r gorllewin o Gasnewydd ac i'r dwyrain o Lanelli, byddant yn pleidleisio ar gyfer comisiynydd nesaf De Cymru.
Tasg y Comisiynydd fydd craffu ar y llu a sicrhau ei fod yn atebol.
Fe fydd y Comisiynydd hefyd yn gallu penodi a diswyddo'r prif gwnstabl a gosod cyllideb ar gyfer y llu.
Y deiliad presennol yw Alun Michael, Llafur Cymru, sy'n ceisio cael ei ail-ethol ac yn wynebu cystadleuaeth gan bedwar ymgeisydd arall.
Yma rydym yn nodi pa ardal y mae Heddlu De Cymru yn ei chwmpasu, cyllideb a pherfformiad yr heddlu, yn ogystal â phwy sy'n sefyll ar gyfer yr etholiad.
Cliciwch yma am ein canllawiau i:
Ogledd Cymru
Gwent
Dyfed Powys
Yr etholiadau

Pwy yw'r ymgeiswyr?
Mike Baker, Annibynnol
Tim Davies, Ceidwadwyr Cymreig
Alun Michael, Llafur Cymru
Linet Purcell, Plaid Cymru
Judith Woodman, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Beth yw Heddlu De Cymru?
Heddlu De Cymru yw'r llu mwya o ran poblogaeth - tua 1.2m - ac yn gyfrifol am ddinasoedd Caerdydd ac Abertawe.
Mae hefyd yn gofalu am ardaloedd poblog yn siroedd Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Bro Morgannwg a Chastell-nedd Port Talbot.
Yn ogystal, mae'r llu yn gofalu am ardal eang yr arfordir a threfi poblogaidd gydag ymwelwyr fel Y Barri, Porthcawl a'r Gŵyr yn ogystal â'r cymoedd.
Mae cysylltiadau teithio pwysig o fewn yr ardal, traffordd yr M4, cysylltiadau rheilffordd a Maes Awyr Caerdydd.
O fewn yr ardal hefyd y mae Stadiwm y Mileniwm, Stadiwm Dinas Caerdydd a Stadiwm Liberty, tri lleoliad chwaraeon poblogaidd.
Mae yna 2,937 o swyddogion yn gweithio yn Heddlu De Cymru, gyda 1,746 o staff cymorth a 406 o swyddogion cymorth cymunedol.
Y prif gwnstabl yw Peter Vaughan, gyda Matt Jukes yn gwasanaethu fel dirprwy brif gwnstabl.

Cyllid
Cyfanswm cyllideb yr heddlu ar gyfer 2016/17 yw £258.9m. £207.85 sy'n cael ei dalu gan bob eiddo band D.
Mae hynny'n cymharu â £200.07 yn Nyfed-Powys, £220.06 yng Ngwent a £240.12 yn ardal Heddlu Gogledd Cymru.
Mae Heddlu'r De yn rhagweld arbedion o £5.4m yn 2016/17, yn cynnwys lleihad o 21 yn nifer y gweithlu.

Trosedd a pherfformiad
Roedd 89,864 o droseddau yn ne Cymru rhwng Medi 2014 a Medi 2015, cynnydd o 4% ar y flwyddyn gynt.
Fe wnaeth trais yn erbyn y person godi 23%, er bod yr holl heddluoedd ar wahân i un gofnodi cynnydd yn y categori hwn o droseddau.
Cododd troseddau rhywiol 11%, tra bod troseddau byrgleriaeth wedi gostwng 5%. Cafwyd gostyngiad o 6% mewn lladrata, tra bod difrod troseddol a llosgi bwriadol wedi gostwng 1%.
Dywedodd yr arolygiad blynyddol diwethaf o heddluoedd gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi bod Heddlu De Cymru yn dda am atal troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac roedd ganddynt ddealltwriaeth dda o gymdogaethau lleol.
Dywedodd yr Arolygiaeth hefyd bod yr heddlu yn dda am adnabod a mynd i'r afael â grwpiau troseddau difrifol a threfnedig.