bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Urdd 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O'r MaesGalw am deithio gwyrdd i'r Urdd

Huw Llywelyn DaviesGalw am i Eisteddfodwyr ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd rhag tagu'r brifddinas â cheir

Galwodd trefnwyr Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd ar Eisteddfodwyr i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na'u ceir er mwyn osgoi problemau traffig dros yr Wyl.

Meddai Huw Llywelyn Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith:

"Mae yna dagfeydd yn y Brifddinas ar y gore y dyddie yma, felly y neges yw rhoi digon o amser i gyrraedd, neu os gellir teithio ar fws neu drên yn hytrach nag mewn ceir, yna gorau oll i bawb!"
Ond ar ôl cyrraedd addawodd y bydd gwledd heb ei hail yn disgwyl y tyrfaoedd.

"Bydd yr holl atyniadau arferol o ran y cystadlu, yr arddangosfeydd a'r gwahanol weithgareddau yno," meddai - a gwedd newydd i brif seremonïau pwysig y prynhawniau.


Oherwydd lleoliad y maes yng nghanol y ddinas ni fydd meysydd parcio pwrpasol.

Cyngor yr Urdd
Mae'r Urdd a Chyngor Caerdydd yn rhybuddio eisteddfotwyr i gychwyn yn ddigon buan er mwyn bod yn siwr o le parcio yn y ddinas.

"Mae nifer o feysydd parcio o fewn tafliad carreg i faes yr Eisteddfod gyda digon o lefydd parcio am brisiau rhesymol.

"Bydd mannau parcio yng Ngerddi Sophia, Rhodfar Gogledd, Mews y Castell, y Ganolfan Ddinesig ac ym meysydd parcio NCP yn Stryd y Brodyr Llwyd, Westgate, a Dumfries, gyda'r rhan fwyaf o'r rhain yn cynnig parcio am ddim ar y dydd Llun a'r dydd Mawrth, gwyliau'r banc," meddai llefarydd.

Y cyngor i bobl o gyffiniau Caerdydd a'r Fro yw defnyddio bysus a threnau er mwyn cyrraedd prif fynedfa'r maes ar Rodfar Gogledd.

Bydd mannau priodol ar gael i barcio beics hefyd wrth brif fynedfa'r Eisteddfod.

Ar gyfer rhai sy'n mynychu rhagbrofion bydd meysydd parcio arbennig ar gael yn Stadiwm Athletau Leckwith gyda gwasanaeth bysiau wennol i Ysgol Fitzalan a maes yr Eisteddfod.

Hefyd, bydd y gwasanaeth ar gael i gystadleuwyr a chefnogwyr yn aros yn y ddinas, i'w cludo o Rodfa Brenin Edward VII i Ysgol Fitzalan ac yn ôl i faes yr Eisteddfod.

Bydd y gwasanaeth bysiau wennol yn rhedeg rhwng 7.00 y bore a 7.00 yr hwyr bob dydd.

Bydd safle parcio i fws preifat pob ysgol sy'n teithio i'r rhagbrofion. Yn dilyn y rhagbrawf anogir pob ysgol i deithio i faes yr Eisteddfod ar eu bws eu hunain yn hytrach na defnyddior bws wennol.

Bydd safle parcio ar gael ar eu cyfer yn Rhodfa Brenin Edward VII a bydd modd i fysiau tripiau preifat barcio yma hefyd.




Cefndir
Gwell hwyr na hwyrach

Ffeithiau Urddasol

Prifddinas Cymru - Prifddinas yr Urdd

lluniau'r wythnos
Lluniau Dydd Mawrth

Oriel Caerdydd

Crwydro'r Brifddinas

Lluniau Dydd Llun

Lluniau dydd Mercher

Lluniau dydd Iau

Lluniau dydd Gwener

Lluniau dydd Sadwrn

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy