
Gwledd gan gannoedd o blant
Mae gweithgarwch cannoedd ar gannoedd o blant ysgol Caerdydd a'r cyffiniau yn cyrraedd ei benllanw mewn pedair sioe lwyfan yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd yr wythnos hon.
Y sioe iau eleni yw Syniad Sam gan Ffion Harries a Geraint Cynan o Gaerdydd.
"Dyma wledd gerddorol syn siwr o godir to yn Neuadd Dewi Sant. "A chyda chast anferth o 400 o ddisgyblion rhwng naw ac 11 oed o ysgolion Cymraeg Caerdydd a Bro Morgannwg yn cymryd rhan, bydd yn gyfle gwych i bawb fwynhau a gweld talent ifanc yr ardal," meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwraig yr Eisteddfod ar Celfyddydau.
Ychwanegodd mai teithio ir gofod yw'r thema.
"Rydyn yn ffodus ein bod wedi llwyddo i ddenu talentau fel Ffion Harries i sgrifennur geiriau a Geraint Cynan i gyfansoddir gerddoriaeth, ac mae Gwawr Dafis, y cyfarwyddwr, yn llwyddo i gael perfformiad eu bywydau allan or prif gast o 100, ar corws o 300 o blant," meddai. Bydd y sioe o nos Lun i nos Fercher, (Mehefin 3 -5).
Ysgolion uwchradd Mae'r Sioe Ysgolion Uwchradd , Wê-Hei!, yn troi o gwmpas Caffi Rhyngrwyd syn gyrchfan poblogaidd iawn i ddisgyblion ysgol ddychmygol Bro Plas Taf.
Maer cast o dros 100 o blant yn cynnwys disgyblion o ysgolion Uwchradd Cymraeg Glantaf, Plasmawr a Bro Morgannwg a thalwyd teyrnged i ymroddiad y plant gan un o gyfarwyddwyr y sioe, Wyn Jones, athro Drama yn Ysgol Plasmawr.
"Rwyf fi am cyd-gyfarwyddwraig, Delyth Medi, wedi mwynhau y profiad o weithio ar y sioe yn fawr iawn ac maer bobl ifanc wedi rhoi cant y cant ers y cychwyn.
"Maen braf hefyd fod y tair ysgol, sydd fel arfer yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ar lwyfan yr Urdd, wedi gallu dod at ei gilydd i gydweithio ar Wê-Hei!," meddai.
Y sgriptwyr yw Daniel a Matthew Glyn o Gaerdydd.
Cyfansoddwyd y gerddoriaeth, sy'n fodern iawn, gan Steffan Rhys Williams a pherfformir y gwaith ar Fai 30, 31 ac ar Fehefin 3, 4 yn Theatr Ysgol Stanwell, Penarth.
Cerddorfa a band Hefyd, bydd cyngerdd o Gerddorfeydd a Bandiaur Ddwy Sir ar nos Fercher, Mehefin 5 a Sioe Sêr y Sioeau yng nghwmni Shân Cothi ac eraill ar Fehefin 6.
Rhywbeth at ddant pawb felly.
Am fanylion pellach, neu i archebu tocynnau, ffoniwch swyddfar Eisteddfod ar 029 2080 3360.

|