bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Urdd 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O'r MaesLlywydd y diwrnod cyntaf

Sara HunterTran rhedeg drwy barciau Caerdydd i gadwn heini ac i ymarfer ar gyfer ras marathon yn y Brifddinas fis Medi nesaf wnaeth Sara Hunter erioed freuddwydio y byddai'n sefyll ar lwyfan cenedlaethol yr Urdd yn un o'r parciau hynny heddiw.

Yr actores ar gyflwynwraig deledu yw llywydd y diwrnod cyntaf Prifwyl yr Urdd yng Nghaerdydd ond er wedi cystadlu ar lwyfan y brifwyl yn y gorffennol dywedodd na fu'n rhaid iddi erioed wynebu cynulleidfa ar ei phen ei hun o'r blaen.

Ond yr oedd yn dawel ei meddwl gan wybod y byddai ei gwr, Paul, au merch fach wyth mis oed, Soffia, yn y gynulleidfa.

"Yr ydw i'n edrych ymlaen at y dydd y bydd Soffia hefyd yn ddigon hen i gystadlu ar y llwyfan meddai Sara a enillodd Gadair yr Urdd yn 1987.

"Wnes i erioed gystadlu'n unigol ar y cystadlaethau llwyfan," meddai, "dim ond yn rhan o grwp neu ddeuawd - ond bydd yn rhaid imi sefyll ar y llwyfan ar fy mhen fy hun heddiw," meddai wrth BBC Cymru'r Byd.

Disgrifiodd y profiad fel anrhydedd arbennig iawn.

Mynegodd hefyd ei balchter mai yng Nghaerdydd y mae'r Eisteddfod yr wythnos hon gan fod hynnyn arwydd pellach or hyder newydd y mae'r brifddinas ifanc hon yn ei ennill yn Ewrop.

Disgrifiodd Eisteddfod yr Urdd fel gwyl sydd yn unigryw i Gymru yn rhoi y cyfle i blant mor ieuanc ag wyth oed gael y profiad o berfformio ar lwyfan.

Canmolodd hefyd y cynnydd a fu mewn addysg Gymraeg yn y Brifddinas. Yn dod or Barri bu'n rhaid iddi hi fynychu ysgol Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd "ond erbyn heddiw y mae ysgol Gymraeg yn Y Barri ei hun," meddai.

Manteisodd Sara ar y cyfle i ddangos yr Eisteddfod iw gwr, Paul, syn dod o Donteg yn wreiddiol ac sy'n dysgu Cymraeg.

"Dydi o erioed wedi bod yn yr Eisteddfod," meddai, "ac rwyn edrych ymlaen at fedru dangos gwyl mor gyffrous ag amrywiol ydi hi iddo fo," meddai.






Cefndir
Gwell hwyr na hwyrach

Ffeithiau Urddasol

Prifddinas Cymru - Prifddinas yr Urdd

lluniau'r wythnos
Lluniau Dydd Mawrth

Oriel Caerdydd

Crwydro'r Brifddinas

Lluniau Dydd Llun

Lluniau dydd Mercher

Lluniau dydd Iau

Lluniau dydd Gwener

Lluniau dydd Sadwrn

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy