
Cas bethau mewn Steddfod - sut i sathru cyrn Mici Plwm
Pobol sy'n wrjio papurau newydd arnoch chi, pobl sy'n rhoi enwau eu plant ar bartïon cydadrodd ac arweinwyr pwysig ar y llwyfan - dim ond tri o'r pethau sy'n difetha Steddfod i Mici Plwm.
Ac ar drydydd diwrnod Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd yr oedd Mici yn stiwdio Rhaglen Nia Roberts i sôn am ei gas bethau eisteddfodol.
A does dim amheuaeth i'w sylwadau daro tant gyda sawl un arall o grwydrwyr y maes.
Dyma nhw gas bethau Mici - ond beth amdanoch chi? Anfonwch i sôn am y pethau sy'n boen i chi ar feysydd steddfodol:
Ond yn gyntaf - cas bethau Mici: 1 Cyrraedd y Fynedfa - wedi cerdded am filltiroedd - ac er fy mod i wedi ngwisgo fel clown efo paent dros fy wyneb mae stiward yn gwrthod mynediad imi am nad yw'r tocyn iawn gennyf. A minnau'n meddwl y dylai fy ngwisg awgrymu iddo nad ceisio cael i mewn am ddim ydw i!
2 Partïon canu a chydadrodd gydag enwau fel Parti Ffion, Côr Lowri ac yn y blaen. Mae hynny'n union fel galw Manchester United yn Tîm David neu Lerpwl yn Tîm Jimmy . Allwch chi ddychmygu'r canlyniadau yn cael eu darllen? Tîm David , un - Tîm Ian, dau ac yn y blaen. A pham mai enw merched sydd yna ar y partïon eisteddfodol hyn bob amser - fyddwch chi yn clywed am Barti Bobi neu Gôr Cedric, Côr David
3 Gwerthwyr Western Mail, Daily Post, Golwg a'r "Cymro sy'n mynnu bloeddio be mae nhw'n werthu tra dwi'n darllen yr union bapur neu gylchgrawn hwnnw - ydyn nhw'n meddwl mai hel y petha ydwi?
4 Arweinwyr gweithgareddau llwyfan sy'n mynnu deud drefn ac yn trin y gynulleidfa fel defaid!! Pan fyddan nhw'n gweiddi am inni fod yn ddistaw a gostegu mae gen i awydd gweiddi'n ôl atyn nhw: "Dwi di talu i fod yma - ydych chi? Mae gen i hawl i wneud swn.
5 Gwerthwyr hufen iâ neu dda-da, minceg neu betha-da sydd wedi cael dod ar y maes i werthu ond ddim yn dangos arwyddion yn Gymraeg: neu'n dangos rhai llawn camgymeriadau ac yn codi crocbris. Weithiau mi fyddai'n rhatach dod â buwch i'r maes na thalu am wydraid o laeth!
6 Y bobl hynny sy'n fy nghyflwyno i'w plant neu eu hwyrion fel Mici Plwm (a dyna pwy ydwi!) er i mi fod yn treulio oria yn gosod colur er mwyn creu cymeriad arall. Yr un bobol sy'n dweud petha fel Yncl Dafydd ydi Siôn Corn Band of Hope eleni o gwmpas y Dolig!! Grrrr!!!!
7 Pobol sy'n gofyn am lofnod heb na darn o bapur na pensal i'w henw! Be ma nhw'n feddwl ydw i - biwrô neu ddesg symudol!
8 Yn y Maes Parcio yr oedd fy syniad i o rwymo bag plastig wrth erial fy nghar yn gweithio'n wych. Yn awr mae pawb wedi dwyn fy syniad ac mae bag plastig yn hedfan o gar pawb a phawb yn rhedeg o gwmpas fel wyn yn brefu yn chwilio am eu dafad - a mynd at yr un anghywir bob gafael.
9 Ffôns symudol neu wats yn torri ar draws perfformiad gwych. Pobol yn eich ffonio i ddweud wrtha chi iddyn nhw gal cip ohono chi yn y gynulleidfa! A chan nad ydi pawb yn setio'r amser i'r eiliad ar ei wats - ceir o bosib tua thri munud o watsus garddwrn digidol yn taro ar yr awr!!
10 Yn hytrach na'u bod nhw'n edrych yn wirion yn cymryd arnynt eu bod yn cerddad a'r flaenau'u traed o'r llwyfan wedi cyflwyno cystadleuydd oni fyddai'n well i'r Steddfod roi slipars gwadna meddal i'r arweinyddion fel y gallen nhw gerdded fatha pawb arall.

|