
Aberystwyth ar y brig llenyddol
Bydd dathlu yn Aberystwyth yn dilyn canlyniad cystadleuaeth Medal Lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd
Tair sy'n aelodau o Aelwyd Pantycelyn yn y dref a ddaeth yn gyntaf ail a thrydydd.
Ac yr oedd y beirniaid, Sioned Puw Rowlands ac Owain Martell yn uchel eu canmoliaeth o Meinir Eluned Jones sy'n dod o'r Rhiwlas ger Bangor ond sy'n awr yn fyfyrwraig yn Aber ar ar fin cwblhau cwrs Ysgrifennu Creadigol.
Canmolodd Owen Martell ei llwyddiant i gyfuno dwyster, digrifwch ac abswrdiaeth wrth sgrifennu.
Ychwanegodd ei bod yn "dda iawn wrth sgrifennu'n ffug-arwrol ac eironig."
Yn ôl Sioned Puw Rowlands doedd dim amheuaeth mai hi fyddai'n ennill o blith y naw a ymgeisiodd.
Dywedodd Meinir fod ei gwaith yn cynnwys wyth stori fer ac iddi fod yn arbrofi gyda ffurfiau llenyddol a themau.
Bu'n llwyddiannus er bod bwlch eitha maith ers iddi gystadlu o'r blaen. Bu'n fuddugol yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen pan yn yr ysgol a chafodd lwyddiant yng ngystadleuaeth sgrifenwyr ifanc yr Academi Gymreig pan oedd yn 16.
Wedi cwblhau ei chwrs gradd dywed mai ei gobaith yw gwneud ymchwil M.Phil ar awduraeth a lle'r darllenydd mewn beirniadaeth lenyddol.
Ei hoff awduron Cymraeg ydi Mihangel Morgan, Marcel Williams ac Eirug Wyn a chyfeiriodd at ddylanwad beirdd mor wahanol â Mynyddog a Grahame Davies, sydd hefyd yn olygydd BBC Cymru'r Byd.
Yn ail ac yn drydydd yn y gystadleuaeth yr oedd Luned Emyr a Catrin Elin Dafydd, hefyd o Aelwyd Pantycelyn.

|