
Mwy nag erioed ar Faes yr Urdd
Gwella ar welliant fu hanes Eisteddfod yr Urdd ddydd Mawrth gyda mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn ymweld â hi.
Gyda'r maes yn ei ogoniant yn yr haul yr oedd "plant dan draed rhywun ym mhob man" erbyn canol dydd fel y dywedodd un Eisteddfotwr rhwng difrif a chwarae wrth geisio brysio o un pen i'r maes i'r llall ganol dydd.
Dim rhyfedd hynny achos erbyn diwedd dydd yr oedd 29,351 wedi dod drwy'r clwydi - y nifer fwyaf erioed i ymweld a Phrifwyl yr Urdd a'r mudiad dros hanner ffordd tuag at ei nod o 100,000 am yr wythnos o fewn dau ddiwrnod.
Os pery hyn am weddill yr wythnos bydd llwyddiant Caerdydd y tu draw i bob dychymyg.
Ond go brin y gellir disgwyl cystal â dydd Mawrth eto gan mai dyma'n draddodiadol ddiwrnod prysuraf yr Urdd gyda thair mil o gystadleuwyr yn chwilio am y gwobrau cyntaf yna.
Yr oedd ambell un o'r trefnwyr yn barod i ddweud diolch wrth y Frenhines hyd yn oed am lwyddiant dydd Mawrth - gan iddi hi drefnu yr holl flynyddoedd yn ôl y byddai dathliadau ei Jiwbili ar ddau ddiwrnod cyntaf Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a phawb ar wyliau i fedru mynychu'r wyl!
Atyniad ychwanegol sy'n dod â'r eisteddfod i sylw pobl Caerdydd ydi sgrîn enfawr ger muriau'r castell yn dangos gweithgareddau'r eisteddfod sydd ond megis tafliad carreg i ffwrdd.

|