bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Urdd 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O'r MaesY bachan gafodd gam yn Llywydd y Dydd!

Matthew RhysDdydd Mawrth yr oedd Matthew Rhys y tu ôl i lwyfan yr Urdd yn helpu'i dad gyda phlant oedd yn cystadlu ac yn rhoi cymorth i gario a symud telyn.



Ddydd Mercher yr oedd yr actor o Gaerdydd yn Llywydd y Dydd ac yn uchel ei glod o'r Urdd "er gwaethaf cam a gefais i yn '84," meddai gan wenu.

Wrth siarad a BBC Cymru'r Byd canmolodd yr actor - sydd wedi ymddangos ar yr un llwyfan a Kathleen Turner yn The Graduate - yr holl amrywiaeth o weithgareddau a phrofiadau y mae'r Urdd yn eu cynnig i bobl ifainc a'r "dylanwad enfawr" sydd gan y mudiad.

Ac fel beirniad yn y gystadleuaeth darn dramatig i rai rhwng 14 a 25 oed ddydd Gwener dywedodd Matthew ei fod fel cystadleuydd yn dechrau deall y pwysau y mae beirniad dano ar achlysuron o'r fath.

Gan chwerthin cyfeiriodd at ei brofiadau - llai na llwyddiannus - ei hun fel cystadleuydd.

"Ar yr adrodd yr oeddwn i'n cystadlu a chael sawl cam cyn sylweddoli nad oedd llawer o ddawn gen i ar yr adrodd," meddai.

Ac yn dilyn un cam yn ormod - ar Y Bwji yn '84 - doedd Matthew ddim yn cystadlu pan ymwelodd yr Eisteddfod â Chaerdydd y flwyddyn wedyn.

Yn naturiol, roedd yr adroddwr aflwyddiannus sydd wedi tyfu'n actor mor llwyddiannus braidd yn betrus i gynnig unrhyw sylw ar rinweddau neu ddiffygion adrodd fel cyfrwng.

"Mae'n debyg, os am adrodd, mai'r hyn i'w wneud yw ei gadw yn ei ffurf fwyaf pur a gadael i'r geiriau greu y darlun a pheidio gadael iddo droi yn actio," meddai.

Ar Faes yr Eisteddfod ddydd Mawrth yr oedd Matthew yn cael blas ar Steddfota mwy ymarferol yn cynorthwyo ei dad, Glyn Evans, prifathro Ysgol Bro Eirwg, i edrych ar ôl disgyblion o'r ysgol oedd yn cystadlu mewn partïon ar y llwyfan.

A'r amser hon yr wythnos nesaf bydd yn ôl yn Llundain yn paratoi ar gyfer ei ran nesaf ar lwyfan y National Theatre lle mae'n chwarae rhan peintiwr sy'n darganfod fod y dyn biau'r ty lle'i hanfonwyd yn gwneud bomiau.

"Mae'r ddrama gan Simon Bent yn un sy'n cychwyn yn ysgafn ond yn cymryd tro annisgwyl," meddai Matthew.

Bydd yn agor yn Llundain ar Awst 15.





Cefndir
Gwell hwyr na hwyrach

Ffeithiau Urddasol

Prifddinas Cymru - Prifddinas yr Urdd

lluniau'r wythnos
Lluniau Dydd Mawrth

Oriel Caerdydd

Crwydro'r Brifddinas

Lluniau Dydd Llun

Lluniau dydd Mercher

Lluniau dydd Iau

Lluniau dydd Gwener

Lluniau dydd Sadwrn

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy