
Mae'n dod - dydio o ddim! Dyfalu am ymweliad Arglwydd Faer
"Fydd o ynteu fydd o?" fu'r cwestiwn a fu'n cael ei ofyn ar Faes yr Eisteddfod ers dydd LlunAc hyd yn oed fore Gwener doedd yna ddim sicrwydd a fyddai Arglwydd Faer Caerdydd, Russell Goodway, yn cyrraedd maes prif wyl ddiwylliannol Gymraeg y Cymry ifainc.
Erbyn nos Wener, daeth y neges na fyddai ymweliad gan sbarduno beirniadaeth gyda'r halltaf gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith.
Ddydd Mercher yr oedd un o gynrychiolwyr Cyngor Dinas Caerdydd wedi gorfod cyfaddef mewn cynhadledd i'r wasg fod gan yr Arglwydd Faer bethau eraill pwysicach i'w gwneud ddydd Llun a dydd Mawrth - er na ddefnyddiodd y gair "pwysicaf", yn naturiol, i ddisgrifio rhan ei Faer yn nathliadau jiwbili y Frenhines.
Cafwyd addewid y byddai ei ddirprwy yn ymweld, ac fe ddaeth, gydag awgrym y byddai'r Arglwydd Faer ei hun yn camu i'r mwd ddydd Gwener - ond hanner awr wedi deg y bore hwnnw yr oedd ansicrwydd a fyddai'r trên â'i cludai o Lundain yn cyrraedd mewn pryd ac y byddai efallai'n Sadwrn, ac yn ddiwrnod olaf yr Eisteddfod, cyn iddo fedru drachtio o gwpan diiwylliannol yr Urdd.
Ond pan ofynnodd BBC Cymru'r Byd i Brif Weithredwr yr Urdd a oedd o'n siomedig i'r Arglwydd Faer lwyddo i gadw draw cyhyd prysuro a wnaeth nid i feirniadu ond i ganmol y gefnogaeth a'r cydweithrediad a gafodd yr Eisteddfod yn gyffredinol gan Gyngor y Brifddinas.
"Ddim o gwbl," meddai yn ateb i'r cwestiwn, a oedd yn siomedig?, gan ychwanegu fod y cydweithrediad a'r gefnogaeth gyffredinol a gafwyd yn bwysicach yn y pen draw nag ymweliad neu absenoldeb unigolyn.
"Mae'r gefnogaeth yr ydym wedi ei chael gan staff y ddinas wedi bod yn anhygoel," meddai Mr O'Rourke fore Gwener.
Ac wrth gwrs nid oes amheuaeth na fu'r eisteddfod hon yn fagwrfa bwysig i'r berthynas rhwng yr Urdd a Chaerdydd ar gyfer ymweliad nesaf yr Eisteddfod a'r Brifddinas yn 2008 a phob pedair blynedd wedi hynny yng nghanolfan newydd y mileniwm
Erbyn nos Wener, fodd bynnag, cyrhaeddodd y neges derfynol na fyddai Mr Goodway yn dod oherwydd ei alwadau eraill a beirniadwyd hynny'n hallt ar ran y gweithwyr lleol a drefnodd yr wyl gan gadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Huw Llywelyn Davies.
"Rwy'n cydnabod," meddai, "fod llawer o alwadau ar Mr Goodway ond ni allai unrhyw alwad fod yn bwysicach yr wythnos hon i Arglwydd Faer Caerdydd na bod yn yr Wyl hon rywdro yn ystod yr wythnos."
Tra'n cydnabod cefnogaeth ariannol Dinas Caerdydd a'i chydweithrediad i sicrhau llwyddiant yr Wyl dywedodd ei bod yn siom o'r mwyaf na wnaeth yr Arglwydd Faer amser i weld ffrwyth y buddsoddiad a wnaeth ei gyngor.
"A'i fod heb gymryd y cyfle i ddangos ei gefnogaeth i wyl ieuenctid fwyaf Ewrop a digwyddiadau pwysicaf yr wythnos yng Nghaerdydd."

|