
Yr Urdd - o dwnel du i lygaid haul
Ysbryd o longyfarch ac edrych ymlaen gyda hyder tuag at y dyfodol oedd yna ar faes Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd, bnawn Sul.
A hithau'n haul braf wrth i stondinwyr wneud y paratoadau munud olaf ar gyfer y miloedd o Eisteddfodwyr a fydd yn cyrchu i Gaerdydd yr wythnos hon yr oedd ysbryd trefnwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar ei fwyaf gobeithiol mewn cynhadledd i'r wasg bnawn Sul.
A neb yn fwy hyderus na Rhiannon Lewis, cadeirydd yr Urdd, a ddisgrifiodd sut yr aeth y mudiad "trwy gyfnod tywyll iawn" y llynedd ond bellach yn gweld goleuni unwaith eto.
"Yr ydym wedi mynd drwy'r twnel ac y mae'r haul yn awr yn gwenu ar yr Urdd," meddai ar ôl disgrifio y profiad o orfod wynebu Pwyllgor Gwaith yr eisteddfod yng Nghaerdydd y llynedd i ddweud y byddai'n rhaid gohirio'r Wyl oherwydd y clwy traed a genau.
Ond wrth dalu teyrnged i ymroddiad gweithwyr Caerdydd a'u parodrwydd i ddal ati dywedodd fod hyder newydd yn y mudiad erbyn hyn.
"Mae'r ail-adeiladu wedi digwydd ac mae gobaith yn y tir unwaith eto," meddai.
Arwydd o ddycnwch a llwyddiant gweithwyr yr Urdd yng Nghaerdydd yw i'r mudiad fwy na chyrraedd pob nod ariannol meddai Huw Llywelyn Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.
Gyda nod o £150,000 i'r gronfa leol sicrhawyd £190,000a chasglodd yr Eisteddfod hon, hefyd, fwy o nawdd na'r un arall erioed o'i blaen - £200,000.

|