
Lladd ar y piwis a'r cul
Daeth "pobl biwis a chul" sy'n edrych yn negyddol ar y diwylliant Cymraeg dan lach llywydd y dydd yn Eisteddfod yr Urdd, ddydd Gwener.
Yn gyn aelod o'r Urdd y mae Guto Harri yn ohebydd gwleidyddol gyda'r BBC yn San Steffan erbyn hyn ac yn un o'r sylwebwyr gwleidyddol mwyaf blaenllaw.
Mewn cynhadledd i'r wasg, pwysleisiodd ef werth yr holl bethau cadarnhaol sy'n perthyn i'r Eisteddfod ac i'r Urdd fel mudiad wrth iddynt gynrychioli'r pethau gorau am siarad Cymraeg a bod yn Gymry Cymraeg.
"Mae pob peth ynglyn â'r Eisteddfod yn anhygoel o bositif," meddai cyn mynd ymlaen i feirniadu yr holl ddadlau "piwis a bach gan bobl fach" ynglyn a'r iaith a'r diwylliant Cymraeg y dyddiau hyn.
"Mae rhywbeth yn gul am beth fel hyn ac mewn bod mor negyddol am y Gymraeg a dweud pethau mor wirion a hurt," meddai.
Ychwanegodd: "Mae'n rhaid inni, i gyd,ymfalchïo ynddi hi," meddai wrth gyfeirio at yr iaith "yn hytrach na bod yn hurt a negyddol ynglyn â hi. Rhywbeth i ddathlu ac i ymfalchïo ynddi yw hi."
Datgelodd hefyd iddo nid yn unig ddod yn ail yn Eisteddfod yr Urdd yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama ond iddo hefyd fod yn aelod o grwp roc, Llinyn G, a fu'n ddigon doeth i adael y llwyfan cyn i anghymeradwyaeth y gynulleidfa fynd allan o reolaeth!

|