
Ffermwyr ifanc a'r Urdd - 'dim cystadleuaeth'
Er i Fudiaid Ffermwyr Ifanc Cymru ddweud y bydd yn ymgyrchu am aelodau ar Faes Eistedfod yr Urdd yng Nghaerdydd yr wythnos hon dywedodd yr Urdd nad yw'n ystyried hyn yn fygythiad nac yn gystadleuaeth am aelodau.
Wrth ymateb i ddatganiad y Mudiaid Ffermwyr Ieuainc dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd mai'r hyn sy'n bwysig yw fod darpariaeth mor eang a phosibl ar gyfer pobl ifanc Cymru a chyda hynny mewn golwg gorau po fwyaf o fudiadau sy'n darparu ar eu cyfer.
Wrth danlinellu'r ffaith bna welai fwriad y Mudiad Ffermwyr Ifanc i hel aelodau newydd ar Faes yr Urdd ei hun dywedodd y bydd Merched y Wawr a sawl mudiad arall yn ymgyrchu yn yr un modd.
Ychwanegodd fod yr Urdd yn barod yn aelod o grwp o saith mudiad gwirfoddol sy'n cydweithio.
Dywedodd hefyd fod dealltwriaeth rhwng yr Urdd a'r Mudiad Ffermwyr Ifainc i beidio a chynnal gweithgareddau tebyg yr un pryd rhag i weithgarwch y naill fudiad amharu ar y llall.
"Mae lle i gydweithio mwy yn y dyfodol a darparu yr arlwy fwyaf posibl i bobl ifainc yw yr her i'r ddau fudiad," meddai gan ychwanegu fod canran uchel o bobl ifainc yr ardaloedd gwledig yn perthyn i'r ddau fudiad beth bynnag.sydd wedi dod at ei gilydd.

|