bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Urdd 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O'r MaesCyfle ar ôl cyfle i lywydd newydd yr Urdd

Eirith EvansTalodd llywydd newydd yr Urdd deyrnged i'r Mudiad am yr holl gyfleoedd a roddodd iddi dros y blynyddoedd ac am ei gwneud "yn berson cyflawn".

Daw Eirith Evans yn wreiddiol o Flaenycoed, Caerfyrddin, ond maen awr yn byw ym Mhontgarreg ger Llangrannog.

Ac mewn cynhadledd i'r wasg ar Faes yr Eisteddfod ddydd Llun dywedodd fod yr Urdd yn parhau i gynnig cyfleon gwerthfawr iddi.

"Er fy mod in awr yn rhy hen i gystadlu y maer Urdd yn dal i gynnig cyfleon ar ffurf hyfforddi er enghraifft," meddai.

Dywedodd ei bod hefyd yn cynrychioli'r Urdd ar Ddolen Cymru Lesotho ac wedi ymweld â'r wlad honno ddwywaith.

Ond pan oedd gan Eirith hawl i gystadlu cymerodd ran mewn llu o gystadlaethau dros y blynyddoedd gan ddod yn drydydd am adrodd dan 12 yn y Genedlaethol.

Yn ogystal ag ymweld â Lesotho y mae Eirith hefyd wedi gweithio yn Awstralia a mynychodd goleg addysg yn Innsbruk, Awstria ac ar gwrs yng nghanolfan ofod NASA yn yr Unol daleithiau.

Pan yn arweinydd Adran Bro Elfed cymerodd ran mewn gwyl Blant yn Nhwrci a bu mewn gwyl Geltaidd yn barbados gydag Aelwyd Hafodwenog.

Disgrifiodd ei phrif ddiddordebau fel cerddoriaeth ac maen canu'r sacsoffon, ffidil a'r delyn ag yn organyddes yn ei chapel.
Talodd deyrnged arbennig i'r rhan a chwaraeodd yr Urdd yn ei bywyd:

"Mae'r Urdd wedi cyfrannu llawer i'm gwneud i'n unigolyn cyflawn ac wedi fy ngalluogi i chwarae rhan adeiladol yn y gymdeithas. Ystyriaf hi'n fraint ac yn anrhydedd i fod yn llywydd yr Urdd ."




Cefndir
Gwell hwyr na hwyrach

Ffeithiau Urddasol

Prifddinas Cymru - Prifddinas yr Urdd

lluniau'r wythnos
Lluniau Dydd Mawrth

Oriel Caerdydd

Crwydro'r Brifddinas

Lluniau Dydd Llun

Lluniau dydd Mercher

Lluniau dydd Iau

Lluniau dydd Gwener

Lluniau dydd Sadwrn

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy