bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Urdd 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O'r MaesRadio Cymru yn achub drama rhag y llwch

Lowri HuwsMae Radio Cymru wedi achub drama oedd wedi ei thynghedu i hel llwch ar silff. Mae'r orsaf radio hefyd yn cynnig sbardun ychwanegol i ymgeiswyr cystadleuaeth medal ddrama yr Urdd yn 2003.

Wrth roi'r fedal i Lowri Huws ddydd Mercher cwynodd un o'r beirniaid, Jeremy Turner, nad yw dramâu rhagorol fel un Lowri yn y gystadleuaeth eleni yn cael eu llwyfannu.

A dywedodd Lowri ei hun nad oedd yn obeithiol gweld ei drama fuddugol yn cael ei llwyfannu gan ychwanegu fod pob drama yn anghyflawn heb berfformiad.

Y diwrnod wedi'r gystadleuaeth, fodd bynnag, cynigiodd BBC Radio Cymru nid yn unig ddarlledu cynhyrchiad radio o ddrama Lowri ond hefyd y ddwy arall a ddaeth i frig y gystadleuaeth.

Meddai Aled Glynne Davies, Golygydd Radio Cymru:

"Rydyn yn awyddus i gydweithio â dramodwyr ifanc y tair drama orau yn y gystadleuaeth eleni er mwyn creu addasiadau radio o'r dramâu hynny.

"Ac er mwyn dangos ein cefnogaeth i'r gystadleuaeth rydym yn awyddus i greu fersiynau radio o'r tair drama orau yn yr Urdd y flwyddyn nesaf hefyd.

"Rwyn gobeithio y bydd hyn nid yn unig yn rhoi hwb i'r gystadleuaeth ond hefyd yn creu raglenni a fydd yn plesio llawer iawn o wrandawyr Radio Cymru."

Disgrifiodd Menna Richards, Rheolwr BBC Cymru, hyn fel arwydd pellach o'r bartneriaeth rhwng BBC Cymru a'r Urdd yn mynd o nerth o nerth.

"Rydym yn falch iawn o roi llwyfan i ddoniau disglair yr Urdd," meddai.

Croesawyd cyhoeddiad y BBC gan yr Urdd. "Rydyn yn hynod o falch fod Radio Cymru wedi gwneud y cyhoeddiad yma heddiw," meddai Sian Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod a Chelfyddydau'r Urdd.

"Rydyn ni yn ddiolchgar am y cydweithrediad arbennig rydyn ni yn ei dderbyn ddeuddeng mis y flwyddyn gan Radio Cymru. Rydyn ni wedi gallu cydweithio hefyd i sicrhau llwyfan deinamig llawn bwrlwm ar gyfer y cystadlaethau roc."





Cefndir
Gwell hwyr na hwyrach

Ffeithiau Urddasol

Prifddinas Cymru - Prifddinas yr Urdd

lluniau'r wythnos
Lluniau Dydd Mawrth

Oriel Caerdydd

Crwydro'r Brifddinas

Lluniau Dydd Llun

Lluniau dydd Mercher

Lluniau dydd Iau

Lluniau dydd Gwener

Lluniau dydd Sadwrn

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy