
Rownd i'r Urdd i ennill medal
Sgwennu drwy'r nos am ddwy benwythnos ym mis Chwefror - ac yr oedd un o sgriptwyr Rownd a Rownd yn dathlu ennill Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd, ddydd Mercher.
Ac o glywed mai Lowri Huws o Abergele oedd wedi ennill - ac mai drama am fywyd myfyrwyr oedd hi wedi ei sgrifennu - yr oedd ambell un o'i ffrindiau coleg yn siwr o fod "yn gwingo yn y gynulleidfa," meddai Lowri wedi'r seremoni.
Ond ychwanegodd, er iddi fenthyca rhai elfennau o gymeriadau pobl yr oedd yn eu hadnabod mai ffrwyth dychymyg ydoedd y rhan fwyaf o'r hyn sy'n digwydd yn ei drama am gymhlethdod carwriaethol dau fachgen a dwy ferch yn rhannu fflat.
Canmolwyd Rhannu yn fawr gan y ddau feirniad, Jeremy Turner a Huw Garmon a nododd yn arbennig naturioldeb y dialog.
"Gwaith aeddfed iawn," meddai Huw Garmon.
Er yn dod o Abergele, cynrychioli Ysgol Glanaethwy ym Mangor yr oedd Lowri yn y gystadleuaeth.
Graddiodd mewn drama yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth ac mae'n awr ar staff Ysgol Glanaethwy ac yn un o dîm sgriptio y gyfres deledu, Rownd a Rownd.
Dywedodd mai ystod "dwy benwythnos heb gwsg" yn Chwefror y cyfansoddodd Rhannu ac wrth ymateb i'r ganmoliaeth o'i dialog dywedodd:
"Y mae drama yn gyfrwng yr ydw i wedi setlo ynddo fo ar ôl poetsian efo barddoniaeth a phethau felly pan oeddwn i yn yr ysgol," meddai.
Nid oedd amheuaeth ynglyn a'i brwdfrydedd ynglyn â drama a chefnogodd alwad a wnaed gan un o'r beirniaid, Jeremy Hunter, am i Gyngor Celfyddydau Cymru wneud mwy i hyrwyddo y gystadleuaeth hon yn yr Urdd a sicrhau fod drama gan yr ifanc yn cael ei pherfformio.
"Yr ydw i'n cytuno ag ef pan ddywed fod drama yn anghyflawn nes ei bod wedi ei pherfformio," meddai.
Dywedodd i'w diddordeb mewn drama ddatblygu er pan oedd yn ifanc iawn ac ers iddi gymryd rhan yn y sioe gerdd, Magdalen, yn Theatr Clwyd gyda'r Urdd yn 1995.
Dyna pryd y newidiodd ei meddwl ynglyn â bod yn chwaraewraig pêl-droed broffesiynol yn yr Eidal a chanolbwyntio ar y theatr yn lle hynny.
Yn Aberystwyth bu'n arweinydd Aelwyd Pantycelyn ac yn swyddog datblygu cynorthwyol rhan amser i'r urdd.
Mae hi hefyd wedi sgriptio a chyfarwyddo dwy sioe gerdd i'r Urdd, @rthur ac Wyt ti'n Gêm ac wedi cyd-drefnu taith theatrig i'r Eidal.
Yn ei hamser hamdden mae'n chwarae tenis, mynd i'r gym, cerdded y ci a swpera gyda ffrindiau a dywedodd mai ei huchelgais yw bod yn rhan o adfywiad y theatr yng Nghymru "a chael llond ty o blant" - ei chwmni drama ei hun efallai.

|