bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Urdd 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O'r MaesComisiynydd Ewrop yn plesio'r Urdd

CYFLWYNO DOGFEN YMCHWIL A MARCHNATA IEITHOEDD BYCHAN VIVIANE REDING COMISIYNYDD ADDYSG A DIWYLLIANT EWROP GYDA RHODRI WILLIAMS JIM O'ROUKE JANE HUTT A JENNY RANDERSONDdiwrnodau cyn i Gomisiynydd Addysg a Diwylliant Ewrop gyrraedd Maes yr Eisteddfod yr oedd yr Urdd yn rhoi'r pwys mwyaf ar ei hymweliad a'r Wyl.



Hyd yn hyn dyma yn sicr yr ymweliad pwysicaf â'r Wyl ac yr oedd y Comisiynydd, Viviane Reding, hyd yn oed cyn rhoi ei throed ar Coopers Field wedi bod yn dweud y pethau 'iawn' am yr Urdd yn disgrifio'r mudiad fel un "vibrant" a chyffrous.

O arwyddocad pellach ydoedd ei diddordeb mewn ieithoedd bychain a'i gwerthfawrogiad o'u pwysigrwydd.

Y mae hi ar hyn o bryd yng nghanol ffrae Ewropeaidd ynglyn â'r hawl i wario ar yr ieithoedd hyn ac er iddi neilltuo £640,000 ar gyfer eleni all hi ddim cael ei dwylo ar yr arian oherwydd gwrthwynebiad Ffrainc a Groeg.

Ond osgodd son am y pethau hyn ar Faes yr Urdd dim ond ail-gadarnhau ei chefnogaeth gyffredinol i ieithoedd bychain er ei bod hi yn bersonol yn ymwrthod a defnyddio geiriau fel mawr a bach wrth son am ieithoedd.

Ond mi ddywedodd, "Yr iaith bwysicaf yw'r famiaith - i mi, dyma'r iaith bwysicaf yn y byd," meddai.

Y mae hi ei hun yn siarad Lwcswmbergeg a siaredir gan ddim ond 250,000 o bobl.

Wedi cyrraedd maes yr Eisteddfod parhaodd ei chanmoliaeth o'r mudiad gan ddweud mai'r hyn a'i gwefreiddiai hi oedd y ffordd y mae'r Cymry yn gwarchod eu gwreiddiau.

Ac wrth ffarwelio â hi diau fod yr Urdd yn edrych ymlaen at ei gweld gyda'r £640,000 yna yn ei dwylo - ac yn pledu'r Mudiad gyda rhywfaint ohono!





Cefndir
Gwell hwyr na hwyrach

Ffeithiau Urddasol

Prifddinas Cymru - Prifddinas yr Urdd

lluniau'r wythnos
Lluniau Dydd Mawrth

Oriel Caerdydd

Crwydro'r Brifddinas

Lluniau Dydd Llun

Lluniau dydd Mercher

Lluniau dydd Iau

Lluniau dydd Gwener

Lluniau dydd Sadwrn

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy