
Mewn hwyliau gwych - pabell gelf newydd
Yr oedd y ddau ddylunyddd ifanc a gynlluniodd arddangosfa gelf a chrefft Eisteddfod yr Urdd eleni mor frwdfrydig fe gysgon nhw y tu allan i'r babell un noson.
"Pan gyrhaeddais i un bore yr oedd y ddau mewn sachau cysgu wrth y drws," meddai Eleri Wyn Evans, cadeirydd y Pwyllgor Celf a Chrefft yn ystod y seremoni agoriadol ddydd Llun.
Ac y mae gwedd go arbennig i'r babell eleni wedi ei chynllunio gan John Evans a Theo Humphreys, a sefydlodd eu cwmni eu hunain, 3eyes, tra'n fyfyrwyr yng Ngholeg Caer Llion.
Yr Urdd gomisiynodd y coleg i gynnig dyluniad ar gyfer y babell a'r ymateb cyffredinol ddydd Llun oedd fod cynllun Theo a John o ddefnyddiau ar ffurf hwyliau i rannu'r adeilad yn drawiadol ac yn arloesol. Byddant yn parhau a'u cyfraniad dros y blynyddoedd nesaf.
"Mae'r defnydd yn dryloyw a gellir gweld cysgodion a siapiau pobl yn crwydro o amgylch yr arddangosfa," meddai Eleri.
Ac yr oedd cael y gynulleidfa yn rhan o'r arddangosfa fel petae yn gwbl addas gan mai pobl oedd thema'r cystadlaethau eleni.
"Felly, mae fel petai pawb sy'n ymweld â'r pafiliwn yn rhan o'r arddangosfa eu hunain," meddai.
Dywedodd hefyd i'r thema fod yn sbardun i gystadleuwyr ymateb yn bersonol ac yn unigryw.
"Does yna ddim copio o lyfrau - mae pob ymgais yn ymateb personol gan bob plentyn," meddai.
Yr oedd yr arddangosfa yn torri tir newydd mewn ffordd arall hefyd. Yn hytrach na'r catalog arferol yn rhestru'r gweithiau celf cynhyrchwyd CD yn cyflwyno gwaith yr holl enillwyr.
Yr arlunydd Iwan Bala agorodd yr arddangosfa'n swyddogol.
"Mae'n arddangosfa wych," meddai, "nid yn unig o waith plant ond o waith yr athrawon sydd wedi bod yn cyfrannu gyda syniadau newydd i fyfyrwyr," meddai wrth dalu teyrnged i athrawon am ysbrydoli plant "yn lle gwneud yr un un pethau o flwyddyn i flwyddyn."
Canmolodd hefyd y rhan y mae Cymru yn ei chwarae mewn celfyddyd sy'n gyfrwng gwir ryngwladol heb orfod dibynnu ar iaith.
"Ac mae'n bwysig fod plant Cymru yn medru llefaru efo'r llais yma," meddai.
Enillydd y Fedal Gelf a Dylunio Technoleg eleni yw Alex Kennedy o Ysgol y Creuddyn, Cylch Bro Dulas, Conwy.
Dywedodd mai ei obaith yw dilyn cwrs gradd mewn dylunio cynnyrch yn Lerpwl.
Yn un o chwech o blant cynlluniodd storfa cylchgronau yn y cartref, gosod cwpanau a lle i blant chwarae a thynnu llun am hynny am gost o lai na £60!

|