
Angerdd storm yn deilwng o gadair
Crys tîm pêl-droed yr Ariannin a wisgai enillydd Cadair Eisteddfod yr Urdd wrth gael ei anrhydeddu ddydd Iau. Ac yr oedd Ifan Prys yn gobeithio am fuddugoliaeth yr un mor ysgubol i'r tîm hwnnw ddydd Gwener ac a brofodd ef yn yr Urdd.
"Gan nad oes gan Gymru dîm yn y gystadleuaeth does yna neb arallai gefnogi ond tîm ein cefndryd Cymraeg ym Mhatagonia," meddai.
Ac fel yr Ariannin nid ei fuddugoliaeth ddydd Iau oedd un gyntaf Ifan, 21 oed, gan mai ef oedd bardd cadeiriol yr Urdd ym Mro Conwy y flwyddyn 2000 ac awgrymodd fod ganddo ddwy flynedd wrth gefn i geisio'i gwneud yn deirgwaith.
"Ond dydi'r testun, Dur, ar gyfer y flwyddyn nesaf ddim wedi fy symbylu hyd yn hyn," meddai.
Cerdd ar y testun Storm a enillodd gadair Caerdydd i Ifan a ddewisodd fel ei bwnc y bygythiad i gymunedau Cymraeg ym Mhen Llyn.
Nid oedd osgoi arwyddocad ei ffugenw, Seimon, yn y cyd-destun hwnnw a chadarnhaodd ei fod yntau yn aelod o Cymuned.
Cymerodd Ifan olwg newydd ar y syniad o storm achos storm y taro'n ôl yn erbyn dinistr y blynyddoedd a fu yw ei storm ef yn hytrach na storm yn yr ystyr difol, arferol.
Disgrifiodd Menna Baines, beirniad y gystadleuaeth gyda Llion Jones, ef fel bardd "angerddol" gyda "cenhadaeth danllyd" a'r "gallu i briodi crefft a chynnwys yn hynod gelfydd."
Gyda'i wreiddiau yn ardal Gymraeg Llandwrog disgrifiodd ei gerdd fel un obeithiol er gwaethaf yr argyfwng y mae'n ymwneud ag ef.
"Allai ddim bod yn anobeithiol," meddai wrth gael ei holi wedi'r cadeirio am ddyfodol yr iaith a chymunedau Cymraeg. "Rhaid bod yn obeithiol neu does dim pwynt ceisio gwneud dim," meddai.
Y llynedd yr oedd Ifan yn ail ac yn drydydd am y gadair yng Ngwyl yr Urdd a drefnwyd yn lle'r eisteddfod arferol a thra'n fyfyriwr yn Aberystwyth enillodd gadair yr Eisteddfod Ryng-golegol.
O ran gwaith y mae ei gyfnod yn archifydd dan hyfforddiant yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn dirwyn i ben a dywedodd y bydd yn treulio mis yn crwydro dwyrain Ewrop gyda chyfaill cyn symud i weithio gyda'r Urdd yng Nglan-llyn.
Talodd deyrnged i'w dad am ei drwytho a'i roi ar ben ffordd gyda barddoniaeth.
Ond er cymaint ei wobrwyon dywedodd Ifan nad yw'n ystyried cyhoeddi cyfrol o'i waith ar hyn o bryd. Neu fel y dywedodd ef:
"Ddim am flynyddoedd lawer - os o gwbl!"

|