
Ar ei feic yn y Steddfod er mwyn Calcutta
Mae cyfle i eisteddfodwyr yr wythnos hon helpu plant yng Nghalcutta -trwy dderbyn reid ar gefn beic.
A fydd dim rhaid iddyn nhw dradlo unwaith achos un o feiciau traddodiadol y dwyrain pell sy'n cael ei yrru gan Tom Defis o Gaerfyrddin gyda lle i ddau o deithwyr yn y cefn!
Yn swyddog rhanbarth gyda Chymorth Cristnogol yn ne orllewin a chanolbarth Cymru y mae Tom yn cefnogi ymgyrch Croeso Calcutta yr Urdd a Chymorth Cristnogol trwy gynnig tywys eisteddfodwyr o gwmpas y maes am arian gydol yr wythnos!
"Mae'r beic yn un sydd wedi dod o'r dwyrain pell trwy Gymorth Cristnogol ac mae'n gyfle i ni brofi trafnidiaeth draddodiadol yn y gwledydd hyn," meddai Tom sy'n cyfaddef nad yw yn feiciwr mawr mewn gwirionedd. "Mae gen i feic," meddai, "ond dydw i ddim yn beicio llawer ac fe fydd aelodau o'r Urdd yn fy helpu at ddiwedd yr wythnos," meddai.

|