
'Plis Mr Urdd - gawn ni fwy o chwaraeon' - meddai'r ifanc
Y mae tua hanner y bobl ifanc a holwyd gan yr Urdd eisiau mwy o gyfle i ddefnyddio'r Gymraeg wrth hamddena.
Daeth yr un alwad oddi wrth 21% o ddysgwyr gan atgyfnerthu cri flynyddol bron gan enillwyr cystadleuaeth medal y dysgwyr yn yr Eisteddfod.
"Rwy'n credu fod hynny yn neges bwysig iawn i ni," meddai Jim O'Rourke, prif weithredwr yr Urdd.
Datgelodd yr arolwg hefyd mai gwersylloedd, chwaraeon a digwyddiadau fel tripiau yw'r pethau mwyaf poblogaidd ymhlith aelodau'r Urdd gyda 90 y cant o'r rhai a holwyd yn dweud iddynt gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn.
Yr oedd llai o ddiddordeb, fodd bynnag, yng ngweithgarwch mawr arall yr Urdd, Eisteddfod y mudiad, ond fe ddywedodd cymaint ag 80 y cant o blant cynradd eu bod yn mwynhau hynny. Dim ond 66 y cant o blant oed ysgol uwchradd a gytunai a hwy.
Cyhoeddwyd canlyniad arolwg a drefnwyd yn sgil ymgyrch farchnata a chyhoeddusrwydd gan yr Urdd ar hyd a lle Cymru gyda £150,000 o arian gan y Cynulliad Cenedlaethol i helpu'r mudiad gael ei wynt ato wedi'r argyfwng traed a genau a effeithiodd gymaint ar ei weithgareddau.
Dywedodd Mr O'Rourke, mai'r neges eglur o'r arolwg oedd fod aelodau'r Urdd am weld y mudiad yn eangu ei ddarpariaethau chwaraeon.
"Chwaraeon," meddai, "yw'r prif beth y mae pobl ifainc eisiau i'r Urdd ei ddatblygu."
Dywedodd 95% o aelodau cynradd eu bod yn mwynhau gwersylloedd yr Urdd, 94% eu bod yn mwynhau chwaraeon a nofio a 90% eu bod yn mwynhau tripiau a digwyddiadau.
Dim ond78% a ddywedodd eu bod yn mwynhau darllen cylchgronau'r urdd gydag 80% yn mwynhau'r Eisteddfod.
Dywedodd 90% o bobl ifainc oed ysgol uwchradd eu bod yn mwynhau gwersyll Glan-llyn; 84% eu bod yn mwynhau chwaraeon a nofio ac 83% yn mwynhau tripiau.
Ond dim ond 57% sy'n mwynhau darllen cylchgronau'r urdd a 66% yn mwynhau'r Eisteddfod.

|