|  | 
Helo! Max ydw i. Rwy'n helpu Judy edrych ar ôl y Tweenies. | Doodles yw fy nghi - mae o wedi bod gen i ers yn gi bach - ac mae'n dod gyda mi bob dydd. |
|  |  |
 | Fy hoff liw yw porffor a rwy' wrth fy modd yn yfed te ac yn garddio. |
 | Rwy wir yn hoffi byw yn y dre, er mai un o fy hoff leoedd i fod yw eistedd mewn cadair ar y traeth! |  |
 | Mae'r Tweenies yn fy nghadw i'n brysur a rwy' wrth fy modd yn helpu nhw wneud cymaint o bethau gwahanol. Fe awn ni ar wibdeithiau yn aml gyda'n gilydd - a weithiau rwy'n mynd ar ben fy hun ond yn cymryd y camera fideo fel y gallaf ddangos iddyn nhw ble rwy' wedi bod a beth rwy' wedi ei weld. |  |  |
 |  | Storïau yw un o'r pethau rwy'n eu hoffi mwya', rwy'n hoff iawn o wneud holl leisiau'r cymeriadau i'r Tweenies - a weithiau rydyn ni'n ei actio i gyd allan, neu'n defnyddio pypedau neu luniau! |
Pwy hoffet ti gwrdd nesa'? |
|
|