|  | 
 | Helo! Judy ydw i. Fi sy'n rhedeg y cylch chwarae ac mae Max a finnau'n edrych ar ôl y Tweenies tra'u bod nhw yma. |
|  |  |
 | Oren yw fy hoff liw. 'Dwi'n hoffi bwyta orenau hefyd a llawer o ffrwythau a llysiau eraill. 'Dwi'n hoffi tyfu rhai ohonyn nhw yn fy ngardd adre. | |
 | Mae bob amser llawer i'w wneud - yn trefnu pethau, yn gwneud yn sicr bod gennym ni bopeth sydd ei angen, a thrwsio pethau sydd angen mendio! |  |
 | Weithiau mae Max a finnau'n mynd ar wibdeithiau gyda'r Tweenies - aethon ni i lan y mor i gael picnic mor-ladron unwaith, ac ar dro arall fe aethon ni i weld ble mae ein sbwriel yn mynd a'r holl bethau mae modd eu hailgylchu.
|  | Rydyn ni'n canfod llawer o bethau ar ein cyfrifiadur hefyd, o fideos i CD ROMS - ac weithiau mi ddefnyddiwn ni'r We i ddarganfod am bethau, fel eliffantod. |
 |  |  | | | Rwy'n hoffi gwrando ar gerddoriaeth - unrhyw beth gyda thiwn dda - ac rwy'n hoff o ganu hefyd. |
Pwy hoffet ti gwrdd nesa'? |
|
|