|  | 
Helo! Fizz ydw i. 'Dwi'n dair, bron yn bedair.
Pinc yw fy hoff liw - pinc fel fy ffrog - a 'dwi wrth fy modd yn gwisgo gleiniau yn fy ngwallt.
 | Mae Bella a finnau'n ffrindiau gorau, ond 'dwi'n hoffi helpu Jake hefyd. |
|  |   |
 | 'Dwi'n hoffi yfed sudd oren a bwyta moron, pasta, pinafal a chandi-fflos!' Dwi wir yn hoffi bwyta "breuddwyd caws" i ginio yn enwedig pan mae mam yn torri'r crystyn oddi ar y bara! |  |
 | 'Dwi'n hoffi gwneud pethau - mae pethau disglair yn hyfryd - a 'dwi'n hoffi paentio hefyd. |  |  |
 | 'Dwi wrth fy modd yn mynd ar deithiau, i ymweld â llefydd fel ffermydd, llong camlas neu hen hen dy. Weithiau 'dyn ni'n actio storïau a 'dwi wir yn hoffi pan 'dwi'n medru bod yn dywysoges. Bues i'n Eira Wen unwaith, a morforwyn dro arall! Mae gwisgo i fyny yn grêt!
|  |
Pwy hoffet ti gwrdd nesa'? |
|
|