 | 1. Paentio'r llwy bren a'i adael i sychu, yna tynnu llun gwyneb ar y llwy. |
 | 2. Addurno'r llwy gyda barf a gwallt os hoffet ti.
|
 | 3. I wneud coron, torri'r siâp allan o gerdyn, paentio fe'n aur neu'n arian a gludo'r goron i'r llwy.
|
 | 4. I roi gemau i dy goron, rholia bapur arian yn beli bach a gludo nhw ymlaen.
|
 | 5. Torri siâp corff, breichiau a choesau allan o gardbord a'u clymu i'w gilydd gyda chortyn.
|
 | 6. Gwisgo'r corff cardbord gan ddefnyddio'r darnau sbâr o ddefnydd. |
 | 7. Gludo'r corff i handlen y llwy bren gyda thâp gludiog. |
 | 8. Nawr, fe ddylai fod gennyt dy byped dy hun i chwarae gyda hi! |