Gwneud Pypedau
Bydd angen:
- Llwy bren
- Paentiau lliw
- Peniau ffelt
- Papur arian
- Cardbord
- Gwlân
- Darnau sbâr o ddefnydd
- Glud di-wenwyn
Mae'r Tweenies wyth eu bodd yn gwneud pypedau. Nawr fe elli di ddarganfod sut i wneud dy rai di! Gofyn i oedolyn dy helpu a rho gynnig arni!
1. Paentio'r llwy bren a'i adael i sychu, yna tynnu llun gwyneb ar y llwy.
2. Addurno'r llwy gyda barf a gwallt os hoffet ti.
3. I wneud coron, torri'r siâp allan o gerdyn, paentio fe'n aur neu'n arian a gludo'r goron i'r llwy.
4. I roi gemau i dy goron, rholia bapur arian yn beli bach a gludo nhw ymlaen.
5. Torri siâp corff, breichiau a choesau allan o gardbord a'u clymu i'w gilydd gyda chortyn.
6. Gwisgo'r corff cardbord gan ddefnyddio'r darnau sbâr o ddefnydd.
7. Gludo'r corff i handlen y llwy bren gyda thâp gludiog.
8. Nawr, fe ddylai fod gennyt dy byped dy hun i chwarae gyda hi!
|