Cymry'r Wladfa yn dewis eu gwlad Er gwaethaf ei henw diramant y mae i Ysgol 18 yng Nghwm Hyfryd, Patagonia, le allweddol nid yn unig yn hanes y Wladfa Gymreig yno ond yn hanes yr Ariannin ei hun.
Trwy bleidlais yn yr ysgol hon gan mlynedd yn ôl i heddiw y dewisodd y Cymry cynnar mai rhan o Ariannin fyddai Cwm Hyfryd ac nid rhan o Chile.
Gyda'r bleidlais hon enillodd yr Ariannin 130 lîg sgwâr o dir ffrwythlon a allasai fod yn rhan o Chile erbyn heddiw.
Ac fel sawl dydd arall o bwys yn Ariannin y mae diwrnod y bleidlais honno, Ebrill 30, yn dal i gael ei gofio a'i ddathlu.
Ymgecru am y ffiniau Bu ymgecru ynglyn â'r ffiniau rhwng Ariannin a Chile am flynyddoedd gyda'r naill wlad a'r llall yn mynnu mai hwy oedd biau'r tiroedd ffrwythlon yn ardal Cwm Hyfryd a llechweddau'r Andes.
Yn y diwedd, penderfynwyd rhoi'r dewis i'r bobol i ba wlad oeddan nhw eisiau perthyn.
Un o'r rhai a adroddodd yr hanes ar bapur yn ei lawysgrifen daclus oedd John Daniel Evans - El Molinero, y Melinydd - un o bennaf arloeswyr y Wladfa ym Mhatagonia a'r gwr a wnaeth fwy na neb i ddatblygu Trevelin yn dref o bwys.
 Plygu'r faner "Bu'r degfed ar hugain o Ebrill 1902 yn ddiwrnod pwysig iawn i ni," meddai wrth adrodd yr hanes. "Daethom ynghyd i Ysgol Rhif 18 a byddai'r cyfarfod yn aros yn hanes Ariannin fel digwyddiad tyngedfennol.
"Cyrraedd yno'n gynnar a'n teuluoedd gyda ni yn barod i wynebu'r dydd.
"Yr oedd pwyllgor y ffin wedi cyrraedd a'i neges oedd rhoi diwedd ar y ddadl rhwng y ddwy wlad. Daethai Syr Thomas Holdich yma fel arolygydd Prydain, y Perito Francisco P. Moreno dros Ariannin a'r Dr Balmaceda dros Chile.
"Pan ofynnwyd i ni o dan ba faner y dymunem fyw bu'r datganiad yn unfrydol.
"Rhwng cymeradwyaeth a bonllefau o Viva plygodd y Dr Balmaceda yn araf faner Chile a syrthiodd dau ddeigryn mawr hyd ei ruddiau.
"Carai yntau ei wlad a bu bod yn dyst i weld colli'r tiroedd iddo deimlo'n hynod o bruddglwyfus."
Nid yn unig bu dewis y Cymry yn fodd i'w hanwylo yng ngolwg yr awdurdodau yn Ariannin ond hefyd aeth yn groes a chonfensiwn o bennu ffiniau gwledydd yn ôl rhediad afonydd.
Yma, o ddilyn rhediad Yr Afon Fawr - Rio Grande - byddai llawer o'r tiroedd sy'n awr yn Ariannin yn perthyn i Chile.
Gyda'r llywodraethau yn methu â dod i gytundeb penderfynwyd, yn y diwedd, ofyn i'r trigolion lleol ddewis i ba wlad oedden nhw am berthyn.
Bu'r bleidlais yn ysgol y Cymry - Ysgol 18 - ar Ebrill 30, 1902, gyda Syr Thomas Hungerford Holdich wedi ei anfon o Loegr i sicrhau chwarae teg.
Mae llun o'r pleidleiswyr y tu allan i'r ysgol i'w weld o hyd ar barwydydd yn Y Wladfa.
Gwrthod rhodd o dir Pe byddai'r bleidlais wedi mynd y ffordd arall byddai'r Wladfa Gymraeg ei hun wedi ei rhannu'n ddwy a gwladfawyr Dyffryn Camwy yn ddinasyddion yr Ariannin ond rhai Cwm Hyfryd dan law Chile.
Nid oes amheuaeth mai'r posibilrwydd hwn a ddylanwadodd yn bennaf ar y Cymry wrth iddyn nhw fwrw eu pleidlais.
Yr oedd cadw'r cysylltiad â theuluoedd y Dyffryn chwe chant o filltiroedd i ffwrdd yn bwysicach yng ngolwg trwch y boblogaeth na hyd yn oed rhodd o lîg o dir yr un a addawodd Chile iddynt am eu pleidlais.
Ond fe blediai rhai o arweinwyr y gymdeithas Gymraeg achos Chile er mwyn ennill llwybr i arfordir y Môr Tawel a marchnad i'w cynnyrch yn Chile.
Yr hyn sy'n syndod yw na fu i Gymry mor hirben a'r gwladfawyr hyn berswadio Ariannin i roi iddynt yr un faint o dir a Chile yn rhodd am eu pleidlais.
I ddathlu canmlwyddiant y bleidlais bu cymanfa ganu yng Nghapel Bethel Trevelin ddydd Sul ac ymhlith yr ymwelwyr â Chwm Hyfryd yn ystod y dathlu bydd disgynnydd i Syr Thomas Holdich, a'r arlywydd ei hun.
Bu corau'r ardal yn ymarfer emynau Cymraeg ac anthemau yr Ariannin a Chymru mewn pedwar llais.

|