Mae'r Gymraes sydd wedi ei phenodi yn Llysgennad Prydain yn yr Ariannin wedi ymweld am y tro cyntaf â'r gymuned Gymraeg ym Mhatagonia. Yn dilyn ymweliad â Dyffryn Camwy teithiodd Shan Morgan i'r Andes lle'r ymunodd â dathliadau pen-blwydd tref Esquel. Ac mae'r Llysgennad sydd a'i theulu yn hannu o Aberaeron wedi addo bod ymweliadau eraill i ddod cymaint o argraff a wnaeth y croeso a gafodd arni.
 Er nad yw pethau yn dal yn rhy dda rhwng yr Ariannin a 'llywodraeth Lloegr' - fel mae'n cael ei hadnabod yno - yn dilyn Rhyfel y Malvinas / Falklands cymerodd y gymuned Gymraeg yn y Wladfa ym Mhatagonia Shan Morgan i'w chalon yn ôl Jeremy Wood a oedd yn bresennol yn ystod diwrnod go arbennig yn Esquel. Yr oedd y dref yn dathlu ei phen-blwydd yn 103 ddydd yr ymweliad a rhan o'r dathliadau pen-blwydd eleni oedd agor Sgwar Aberystwyth i nodi efeillio'r dref gydag Aberystwyth yng Nghymru. Dadorchuddiwyd cofeb i nodi'r achlysur gan Mario Das Neves, Llywodraethwr talaith Chubut. Ac fel sy'n anorfod bron ar achlysuron fel hyn yn yr Ariannin yr oedd band pres milwrol wrth law - a hwnnw'n mentro ar ei ddehongliad o Ŵyr Harlech a hefyd, yn dilyn misoedd o ymarfer, Calon Lân mewn Sbaeneg.
 "Yr oedd yn anodd dweud beth oedd yn disgleirio fwyaf y wên lydan ar wyneb Shan Morgan ynteu'r deigryn yng nghornel ei llygaid," meddai Jeremy Wood. Ymunodd y Llysgennad wedyn â maer Esquel, Rafael Williams, a'i swyddogion am ginio ac yn ddiweddarach croesawodd Mrs Silvia Williams hi i de Cymreig traddodiadol yn y capel Cymraeg gyda thua 150 yn bresennol. Gwnaeth y llysgennad argraff trwy sgwrsio yn y Gymraeg a'r Sbaeneg gyda'r gwahoddedigion ac yr oedd yn llwythog o anrhegion yn ymadael am dref gyfagos Trevelin lle'r oedd cig oen Patagonia wedi ei baratoi ar ei chyfer! "Yn ddiplomyddol iawn, wnaeth hi ddim ildio i'r demtasiwn o gymharu'r cig â chig oen Cymru - ond fe ddywedodd nad hwn fyddai ei hymweliad olaf â Chymry'r Andes," meddai Jeremy Wood.  "Yn sicr, dangosodd Shan Morgan y gellir gwthio gwleidyddiaeth rhyngwladol o'r neilltu weithiau wrth i unigolion feithrin cyfeillgarwch rhwng pobl a gwledydd," ychwanegodd. Cyn bo hir bydd yr efeillio ag Aberystwyth yn destun rhagor o ddathlu gydag ymweliad dirprwyaeth o Aberystwyth yn cynnwys y maer, Sue Jones Davies, ag Esquel.

|