Mae'n ymddangos nad yw'r adeg hon o'r flwyddyn yn un dda i'r dewin o bêl-droediwr, Maradona.
Ionawr y llynedd yr oedd yn gorwedd rhwng byw a marw mewn ysbyty; eleni y mae yng nghrafangau pobl y dreth yn yr Eidal sy'n dweud ei fod mewn dyled o £16 miliwn iddyn nhw.
Cwymp y cadarn Yr un pryd daeth i amlygrwydd unwaith eto ym Mhrydain yn dilyn darogan y bydd yn chwarae mewn gêm gyfeillgar i godi arian tuag at glwb Dundee yn yr Alban.
Er nad oes sicrwydd a fydd o'n ymateb i gais ei hen gyfaill Claudio Caniggia, sydd yn awr yn chwarae efo Dundee, y mae un peth yn sicr - na fydd y doniau a wefreiddiodd dyrfaoedd pêl-droed y byd yn yr wythdegau i'w gweld ar Den's Park.
Mynychu'r gêm i weld shwt gymaint y cwympodd y cadarn fydd y tyrfaoedd y tro hwn nid i ryfeddu at ei ddawn.
Yn cael ei ddisgrifio yr wythnos diwethaf fel "forty and frumpy" y mae'r tarw bach a oedd yn gymaint dewin y bêl yn ymgnawdoliad trist erbyn hyn o effeithiau dinistriol cocên a gorfwyta ar y corff dynol.
Bu yng nghrafangau'r ladi wen ers cael ei hudo ganddi gyntaf yn 1983 pan chwaraeai gyda Barcelona ac er na all ddianc o'i gafael y mae'n cyfaddef ei hun "na wnaeth unrhyw les imi."
Parhau yn arwr yn ei wlad ei hun Y rhyfeddod yw fod Diego Armando Maradona yn parhau yn arwr yn ei wlad ei hun, Ariannin, lle mae'n cael ei ystyried yn "más grande futbolista de todos los tiempos" - y pêl-droediwr gorau erioed!
Estyn eu cydymdeimlad tuag ato a gwneud esgusodion drosto y mae pobl gyffredin y wlad hon sydd wedi gwallgofi ar bêl-droed nid ei feirniadu.
Mae'r gwr a dddefnyddiodd "law Duw" i sgorio yn erbyn Lloegr yng Nghwpan y Byd 1986 yw dduw y gêm yno o hyd.
Ar sgrîn mawr y tu allan i siop deledu ar Calle Florida ym Muenos Aires y mae'n dal i ochrgamu'n bowld rhwng chwaraewyr i sgorio goliau gwyrthiol.
Ton o dristwch dros y wlad Daeth ton o dristwch dros y wlad yr adeg hon y llynedd wrth i'r stori ledu o un pen i'r llall ei fod ar ei wely angau ar ôl syrthio yn Uruguay oherwydd gwenwyn y cocên.
Gyda'i galon ond yn 38 y cant effeithiol yr oedd y bachan pum troedfedd pedair modfedd a bwysai bron i un stôn ar bymtheg flonegog erbyn hyn ar farw yn ôl y gohebwyr.
Yn ystod y cyfnod hwn daeth "Beth yw hanes Maradona?" yn gyfarchiad cyffredin.
Waeth pa awr o'r dydd neu'r nos y byddech yn agor y teledu yr oedd canal wedi ei neilltuo yn arbennig i ddarlledu'r wybodaeth ddiweddaraf amdano gyda newyddiadurwyr yn haid barhaol y tu allan i'r ysbyty lle'r oedd yn cael triniaeth ddadwenwyno - detox.
Wedi iddo ddechrau gwella cludwyd ef i Giwba am driniaeth bellach lle mae'n gyfeillgar a Fidel Castro yr Arlywydd.
Cydymdeimlad nid beirniadaeth Nodwedd amlwg o'r gofid a'r pryder amdano oedd fod mwy o gydymdeimlad tuag ato nag o feirniadu ei afradlonedd.
Cydymdeimlad a'r ffaith iddo "syrthio i gwmni drwg" a chael ei arwain ar ddisberod gan eraill.
"Fe aeth gyda'r growd anghywir. Fuodd e ddim yn ddoeth yn ei ddewis o ffrindiau," meddai un o'i edmygwyr o Batagonia.
Oherwydd bod ganddo gymaint o arian yr oedd y ffrindiau ffug hyn - los falsos amigos - yn casglu o'i gwmpas fel pryfed ac yn ei hudo i ddrygau.
"Ond oherwydd yr hyn a gyflawnodd pan oedd ar ei orau y mae pobol Ariannin yn barod i faddau iddo yn awr ei ffaeleddau achos yr ydan ni'n gwybod na all neb byth gymryd oddi arno y pleser a'r teimlad da y mae wedi ei roi inni pan oedd ar ei orau," meddai un arall.
Gôl llaw Duw Ac mae'r gôl yna a sgoriodd yn erbyn Lloegr gyda chymorth "llaw Duw" yn tynnu gwên o edmygedd hyd heddiw i wynebau Archentwyr sydd yn bobl sy'n ymhyfrydu yn y math yna o ystryw gadnoaidd a'i gwnaeth yn gymaint o gês yn eu golwg.
Cymharodd Maradona y weithred i un y carteristas - y lladron poced - ar strydoedd Buenos Aires.
"Dyna wnes i i'r Saeson. Fe ddygais eu waled heb iddyn nhw sylweddoli. Yr oedd fy nghydwladwyr yn falch ohonaf - yr oeddan nhw'n ei weld fel dial am y rhyfel," meddai yn ei hunangofiant Yo soy el Diego - Fi yw Diego - gan gyfeirio at Ryfel y Malvinas/Falklands.
Erfyn iddo farw Adeg ei salwch - gyda'r darogan fod pethau yn wir wedi mynd yn rhy bell y tro hwn ac na fyddai adferiad iddo yr oedd rhai yn deisyfu y cai lithro'n dawel o'i fywyd afradlon i huno am byth gan y byddai hynny yn eu galluogi i'w gofio fel y duw ag oedd pan ar frig ton ei yrfa yn hytrach nag fel y slebog blonegog ydoedd erbyn hynny.
Fel y terfynol wael, dyna meddan nhw ei unig ddihangfa bellach rhag ei dristwch ei hun.
Plentyn i werinwr cyffredin yw Maradona a esgynodd i i'r copaon ond i gwympo wedyn.
Bu'n begera am ei damaid ar strydoedd Buenos Aires cyn dod yn aelod maes o law o'r Boca Juniors yr un o ddau dîm mawr Buenos Aires. La Plata yw'r llall.
Aeth ei ddoniau ag ef ymlaen i Barcelona ac wedyn i Napoli. Ffrwyth ei ddyddiau yno yw'r dyledion treth anferthol y mae'r awdurddoau yn yr Eidal yn eu hawlio oddi arno yn awr.
Mae gen i freuddwyd Er mor druenus ei gyflwr y mae Maradona ei hun yn obeithiol fod dyfodol iddo mewn pêl-droed. Ei freuddwyd fawr yw un ai hyfforddi Boca neu hyd yn oed ei wlad.
Dro'n ôl dywedodd: "Beth bynnag a ddywedan nhw, wnaiff fy meirniaid i byth bythoedd ladd fy mreuddwydion."
Nid yw ei lu o gefnogwyr yn yr Eidal, Sbaen ac Ariannin mor sicr ond ni fyddai dim yn rhoi mwy o lawenydd iddyn nhw.

|