BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
CA2 Creu Stori
TACTEG

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Tacteg
Tacteg Cymraeg
CA 2
creu portread
creu stori
creu adroddiad
creu dyddiadur
creu cerdd
creu llythyr
creu deialog
creu trafodaeth
Termiadur
Rhieni ac athrawon
Gwyddoniaeth

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Atalnodi
Dalen Ffeithiau

Mae atalnodi deialog yn gywir yn gallu peri penbleth weithiau.

Dyma dair enghraifft i chi:

"Mae'r siocled newydd 'ma'n flasus iawn," meddai Anwen.

"Faint o'r gloch mae Edward yn dod yma Mam?" holodd Leusa.

"Grêt!" gwaeddodd Hywel yn gryf.


Mae'n debyg i chi sylwi bod y dyfynodau wedi cael eu gosod o amgylch beth sydd yn dod o geg y cymeriadau.Yn ogystal â hyn, mae'n bwysig cofio'r coma (,); gofynnod (?) neu'r ebychnod (!) cyn cau'r dyfynodau.

Paragraffu

Mae'n bwysig cofio ysgrifennu deialog newydd gan gymeriad newydd ar linell newydd bob tro!

Dyma enghraifft i chi:

"Beth am fynd i'r sinema am chwech heno?" gofynnodd Lewis yn daer gan ei fod yn awyddus iawn i weld y ffilm newydd.
"Sori, alla i ddim am chwech gan fod gwers biano gen i! Beth am saith o'r gloch?" atebodd Brenda.
"Na! Fe fydd y ffilm wedi dechrau am chwarter wedi chwech. Mae'n gas gen i golli dechrau ffilmiau!"
"Wel fe fydd yn rhaid i ni fynd nos Wener yn lle 'te!" mynnodd Brenda yn ddiamynedd.

Paragraffu

Cofiwch hefyd fod angen paragraff newydd bob tro mae syniad newydd gennych chi i'w roi yn eich stori. Bydd hyn yn dangos trefn bendant ac fe fydd yn haws i'r darllenydd ddilyn beth ydy'r datblygiad nesaf yn y stori.

Ysgrifennwch baragraff fydd yn cynnwys naratif a deialog rhwng dau gymeriad. Cofiwch ddisgrifio y ffordd maen nhw'n siarad gyda'i gilydd.



CA2 Creu Stori

Cwis


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy