Mae syniad penodol gennych chi nawr ynglŷn â beth rydych chi'n mynd i ysgrifennu. Mae'n bwysig i chi wybod beth sy'n digwydd yn eich stori ac mae'n bwysig i greu cynllun. Os dych chi ddim yn cynllunio'r stori, yna fyddwch chi ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd nesaf! Mae peryg wedyn i'r stori golli cyfeiriad a mynd yn ddiflas! Weithiau, mae'n syniad da i ysgrifennu'r frawddeg agoriadol a'r frawddeg olaf yn gyntaf cyn gwneud dim arall. Bydd eich stori wedyn yn datblygu'n naturiol o'r dechrau i'r diwedd! Sut mae cynllunio stori dda? Mae sawl ffordd o gynllunio stori! Rydyn ni'n galw'r gwahanol fathau o gynllunio'n sgerbydau cynllunio. Cliciwch yma er mwyn darganfod mwy am y gwahanol fathau o gynlluniau

|