Mae brawddeg gyntaf pob stori yn hollbwysig. Trwy gael brawddeg gyntaf sy'n mynd i ddal sylw'r ddarllenydd, bydd y darllenydd eisiau darllen mwy er mwyn gwybod beth sy'n digwydd nesaf. Mae'n bosibl i chi ddechrau stori gyda deialog rhwng cymeriadau: "Wel, gawsoch chi un?" "Be?" "Ifaciwî, siŵr iawn." Roedd Robin wedi dotio ar y gair newydd sbon. "Naddo," meddai Glyn yn siomedig. "Be amdanoch chi?" "Do. Mae 'na hogan ifanc yn cyrraedd acw heno, medda Mam."
Mae'n bosibl i chi gael brawddeg ar ddechrau stori sy'n rhoi gwybodaeth benodol e.e. Caeodd Ed y drws.
Wrth ddarllen y frawddeg ddechreuol yma, rydyn ni'n gwybod mai enw'r cymeriad ydy Ed a'i fod wedi cau'r drws. Ond rydyn ni eisiau gwybod mwy am Ed. Pa ddrws roedd e wedi ei gau a ble roedd y drws? Wrth ddarllen y paragraff agoriadol ymhellach, mae'r awdur yn datgelu mwy i ni: Caeodd Ed y drws. Llyncodd ei boer. Clywodd gar ei rieni'n rhuo i lawr y lôn i gyfeiriad yr ysbyty, ac yn diflannu i grafangau y nos. Gwrandawodd ar waelod y grisiau rhag ofn bod Iolo bach wedi deffro yn ei lofft. Ond roedd pob dim yn ddistaw fel y bedd. Yn y paragraff agoriadol, mae'n bwysig eich bod chi'n meddwl am yr is-benawdau yma: Trwy ddefnyddio'r is-benawdau yma, byddwch chi wedyn yn gallu datblygu eich stori'n effeithiol!
|