BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
CA2 Creu Llythyr
TACTEG

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Tacteg
Tacteg Cymraeg
CA 2
creu portread
creu stori
creu adroddiad
creu dyddiadur
creu cerdd
creu llythyr
creu deialog
creu trafodaeth
Termiadur
Rhieni ac athrawon
Gwyddoniaeth

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llythyr ffurfiol
Dalen Ffeithiau

Pam ysgrifennu llythyr ffurfiol?

  • Trafod pwnc penodol e.e. at bennaeth ysgol neu at gynghorydd yn y cyngor.
  • Cynnwys mwy penodol a ffurfiol na llythyr personol.
  • Iaith yn fwy ffurfiol - gan nad ydych yn adnabod y sawl sy'n derbyn y llythyr.

Dyma enghraifft o lythyr ffurfiol yn cwyno am bâr o esgidiau:

Llythyr ffurfiol
Trendi gan Euros Rhys Evans, (CAA a Chyngor Dyfed), [ 1991]

Beth yw fframwaith ysgrifennu llythyr ffurfiol?

Mae ffordd arbennig o osod llythyr ffurfiol. Mae nodweddion tebyg i'r ffordd y byddwch yn ysgrifennu llythyr personol ond mae rhai pethau ychwanegol.

  • Fel yn y llythyr personol mae angen gadael llinell rhwng pob rhan er mwyn ei osod yn drefnus a thaclus!

Gan nad ydyn ni gan amlaf yn adnabod y person yr ydyn ni'n anfon y llythyr ato yn dda, rydyn ni fel arfer yn ysgrifennu:

Annwyl Syr/Fadam,

Ambell waith, rydych chi'n gwybod enw'r sawl sy'n derbyn y llythyr, felly mae'n bwysig eich bod yn nodi ei enw/henw:

Annwyl Mr Thomas,

Annwyl Miss James,

Mae rhai llythyrau ychydig yn llai ffurfiol nag eraill felly gallwch ysgrifennu:

Annwyl Gyfaill,

Paragraff cyntaf

Mae'n bwysig eich bod yn egluro pwrpas y llythyr. Mae hyn wedyn yn rhoi cyflwyniad i'r sawl sy'n derbyn y llythyr ynglŷn â beth mae'r llythyr yn mynd i fod yn sôn amdano a'r modd yr ydych am iddo/iddi ymateb i'r llythyr.

Dyma rai enghreifftiau:

Rydw i'n ysgrifennu'r llythyr hwn atoch i gwyno am y pâr o esgidiau rhedeg a brynais yn eich archfarchnad yn y dref Ddydd Mercher, 12/12/04.

Ysgrifennaf atoch i ddarganfod beth yr ydych chi'n bwriadu ei wneud gyda phwll nofio Aberpwll. Mae golwg ofnadwy ar yr adeilad ac mae bron â mynd yn adfail!

Ail baragraff

Mae angen i'r llythyr ddatblygu wedyn gan gyflwyno mwy o wybodaeth a phwynt arall.

Trydydd paragraff

Cyflwyno gwybodaeth a phwynt arall.

Paragraff clo

Casglu ynghyd yr holl wybodaeth a chloi'r llythyr yn drefnus.

Diweddglo

Er mwyn gorffen y llythyr mewn ffordd ffurfiol, mae angen i chi ddefnyddio cyfarchiadau ffurfiol e.e.

Yr eiddoch yn gywir,

Yn gywir,

Mae angen i chi ei lofnodi ac wedyn printio eich enw gan ddefnyddio cyfrifiadur. Dyma enghraifft i chi:

Llythyr ffurfiol

Darllenwch y llythyr ffurfiol hwn. A yw'r holl bwyntiau sydd wedi cael eu nodi uchod wedi eu cynnwys yn y llythyr hwn?

Llythyr ffurfiol

Mae'n debyg i chi sylwi bod cwestiwn yn cael ei ofyn ar ddiwedd pob paragraff. Mae hyn yn gallu bod yn effeithiol iawn gan ei fod yn pigo cydwybod y darllenydd. Pan fydd y darllenydd yn ymateb i'r llythyr hwn, fe fydd disgwyl iddo ateb y cwestiynau hyn!



CA2 Creu Llythyr

Cwis


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy